Mesur Perfformiad

Bob blwyddyn rydym fel Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol er mwyn esbonio, yn glir ac yn gytbwys, beth yr ydym wedi ei gyflawni dros y flwyddyn flaenorol. 

Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 yn pwyso a mesur sut yr ydym wedi ymateb i’r blaenoriaethau yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28. Yn ogystal, mae disgwyl i’r Cyngor gyflwyno hunanasesiad yn flynyddol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a gwelir hwn yn ail ran yr adroddiad.

Rydym yn asesu ein perfformiad yn barhaus drwy’r flwyddyn ac mae Aelodau’r Cabinet yn cyflwyno adroddiadau i gyfarfodydd y Cabinet dwywaith y flwyddyn (yn ychwanegol i'r Adroddiad Blynyddol) yn disgrifio’r cynnydd. Mae aelodau o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor hefyd yn rhan o’r broses barhaus hon o herio perfformiad. Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad yn dod â’r adroddiadau cynnydd yma at ei gilydd ac yn pwyso a mesur y llwyddiant dros y flwyddyn. 

Y Meysydd Blaenoriaeth o fewn y ddogfen hon yw ein Hamcanion Llesiant dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yr Amcanion yn cyfrannu’n uniongyrchol a gyflawni’r saith nod llesiant cenedlaethol.

Gweld Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24

Gweld Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24

 

Adroddiadau Perfformiad Blaenorol sy’n adrodd ar Gynllun y Cyngor 2018-23

 

 

Gwybodaeth bellach

Mae gwybodaeth bellach am rai elfennau o berfformiad Cyngor Gwynedd ar y gwefannau cenedlaethol canlynol:

mylocalcouncil.info

infobasecymru.net

Os ydych angen yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol mewn iaith neu fformat arall ffoniwch 01766 771000 neu e-bostiwch cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru

Os ydych angen mwy o wybodaeth am yr Adroddiad hwn cysylltwch â Thîm Cefnogi Busnes y Cyngor drwy ffonio 01766 771000 neu anfonwch e-bost at: cynlluncyngor@gwynedd.llyw.cymru