Dwi’n fyfyriwr – lle ddylwn i gofrestru?
Mae gan fyfyrwyr hawl i gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad eu cartref a’u cyfeiriad yn y brifysgol. Mae’n drosedd i bleidleisio fwy nag un waith mewn etholiad cenedlaethol ond fe gewch chi bleidleisio mewn etholiadau lleol, e.e. i ddewis cynghorydd lleol, yn y ddau gyfeiriad cyn belled â’u bod mewn ardaloedd pleidleisio gwahanol.
Dwi yn y Lluoedd Arfog – sut ddylwn i gofrestru?
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).
Dwi’n Was y Goron, cyflogai’r Cyngor Prydeinig neu aelod o’r Lluoedd Arfog wedi fy lleoli dramor – ydw i’n cael cofrestru i bleidleisio?
Mae Gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi eu lleoli dramor yn cael pleidleisio ym mhob etholiad ac felly angen cofrestru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).
Dwi wedi symud i fyw dramor yn ddiweddar. Ydw i’n dal i gael pleidleisio yn y Deyrnas Unedig?
Os ydych yn mynd dramor i fyw, gallwch gofrestru i bleidleisio mewn Etholiadau Seneddol ac Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig. Gallwch fyw dramor am hyd at 15 mlynedd a chadw'ch hawl i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig, ond rhaid i chi lenwi ffurflen 'dramor' bob blwyddyn. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).