Llais (audio) | Gweladwy (visual) |
Dim
|
Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28
|
Yma yn Nghyngor Gwynedd rydym wedi gosod ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf gyda Chynllun Cyngor Gwynedd 2023 i 2028
|
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn eistedd y tu ôl i ddesg.
|
Rhwng cloriau'r ddogfen yma rydym yn nodi 7 maes blaenoriaeth ac o fewn y rheiny mae prosiectau sydd yn gwella a datblygu gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar gyfer ein pobl ni.
|
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn dangos copi papur o’r Cynllun.
|
Efallai i chi feddwl sut i ni benderfynu ac ymrwymo i'r meysydd a'r prosiectau yma? Wel mi ddyweda' i wrthych chi mai adborth a blaenoriaethau pobl Gwynedd ydi sail y gwaith . Ryda ni wedi gwrando ar leisiau pobl leol drwy ymarferiad ymgysylltu Ardal Ni a dyma sydd wrth galon popeth sydd o fewn y cynllun.
|
Golygfeydd o Wynedd
|
Dim
|
Sleid: Y saith maes blaenoriaeth a fydd yn gyrru prosiectau 2023-28 yw..
|
Gwynedd Yfory. Rhoi'r cychwyn gorau bosib mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc.
|
Llun o ystafell ddosbarth mewn ysgol.
|
Gwynedd Lewyrchus Cryfhau'r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng.
|
Llun o beiriant mewn ffatri
|
Gwynedd Glyd Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau.
|
Llun ystâd o dai
|
Gwynedd Ofalgar. Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau.
|
Llun o ofalwraig wrth ei gwaith yn cefnogi person.
|
Gwynedd Gymraeg. Sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posib i'n trigolion ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned
|
Llun arwydd ‘siarad Cymraeg’
|
Gwynedd Werdd. Gwarchod harddwch naturiol y Sir ac ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng newid hinsawdd.
|
Llun o Wynedd wledig, a llun o’r criw tacluso wrth eu gwaith
|
Gwynedd Effeithlon. Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fid y Cyngor yn perfformio yn effeithiol ac effeithlon
|
Llun o berson ar ffôn symudol
|
Cadwch olwg am fwy o wybodaeth a fideos am y meysydd gwaith ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
|
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn eistedd y tu ôl i ddesg.
|
Dim
|
Sleid: I ddarllen Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 ewch i'n gwefan www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunyCyngor Mae copiau papur hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol.
|