Dogfennau cefndirol
Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r CDLl ar y Cyd gael ei archwilio yn annibynnol er mwyn sefydlu os yw’n ‘gadarn’ a’i pheidio. Yn unol â hyn, mae’n rhaid sicrhau fod y Cynllun wedi ei seilio ar sylfaen dystiolaeth gref a chredadwy a'i fod yn ystyried polisïau, cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r papurau testun yn darparu gwybodaeth gefndirol sy'n ffurfio rhan o’r sail dystiolaeth ar gyfer pynciau testun penodol sydd angen derbyn ystyriaeth o fewn y CDLl ar y Cyd. Mae’r papurau testun hefyd yn darparu gwybodaeth o ran y polisïau, cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd yn berthnasol mewn perthynas â’r pynciau testun penodol hynny.
Mae’n bwysig sicrhau fod y papurau testun yn darparu gwybodaeth sydd mor gyfredol â phosib. Er nad yw’n ddyletswydd statudol i ymgynghori ar y dogfennau, mae’r Cynghorau yn croesawu unrhyw sylw neu wybodaeth berthnasol a fyddai’n diweddaru cynnwys y papurau.
Dyma restr o’r papurau testun sydd yn cael eu paratoi a’i statws:
Mae’r astudiaethau canlynol ar gael ar CD neu e-bost yn Saesneg yn unig ar gais.Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach:
- Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy
- Astudiaeth Tir Cyflogaeth
- Astudiaeth Manwerthu Gwynedd a Môn
- Adolygiad o Ardaloedd Tirwedd arbennig Gwynedd a Môn
- Astudiaeth Capasisti Ynni Adnewyddadwy Gwynedd
- Astudiaeth Capasisti Ynni Adnewyddadwy Ynys Môn
- Edrych ar bosibilrwydd datblygu safleoedd datblygu: Pwllheli (Adroddiad asesu datblygu) (2014)