Safleoedd posib SP
Elfen allweddol wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol yw adnabod safleoedd posib ar gyfer amrediad o ddefnydd tir gan gynnwys tai, cyflogaeth a defnyddiau eraill megis cymunedol a hamdden. Mae hefyd yn bwysig i adnabod safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu tirlun arbennig, man agored neu werth cadwraeth.
Cofrestr Safleoedd Posib – Y Galw am Safleoedd
Agorwyd y Gofrestr Safleoedd Posib ar y 11 Hydref 2011. Rhoddwyd gwahoddiad ffurfiol i ddatblygwyr, tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno safleoedd a allai gael eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd (CDLl ar y cyd). Noder nad yw ardal y CDLl ar y Cyd yn cynnwys ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Er bod y broses ‘galw am safleoedd’ ffurfiol wedi dod i ben ar 13 Chwefror 2012 mae cynigion hwyr a dderbyniwyd hyd at 31 Hydref 2012 hefyd wedi cael ei gynnwys ar y Gofrestr Safleoedd Posib. Mae nifer o safleoedd wedi cael eu cyflwyno ers i'r gofrestr gael ei gau. Nid yw'r safleoedd hyn wedi cael eu gosod ar y gofrestr ffurfiol, fodd bynnag maent wedi eu cadw ar ffolder o gyniogion hwyr ac wedi derbyn ystyriaeth fel rhan o'r broses o baratoi'r Cynllun. Bydd y cyfle i gynnig y Safle Posib hwyr yn dod i ben ar 17eg o Ebrill 2014, ni dderbynnir unrhyw gynnig hwyr â gyflwynir ar ôl y dyddiad yma.
Mae’r Gofrestr Safleoedd Posib a gyflwynir ar gael i’w harchwilio ar y wefan yma ac mae copïau papur ar gael yn Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor, yn Siop Gwynedd Pwllheli a Dolgellau ac yn Nerbynfa Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (Rovacabin), Cyngor Sir Ynys Môn. Ni fydd enwau a manylion cyswllt y cynigydd yn cael eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus ond gellid eu rhyddhau o dan Gais Rhyddid Gwybodaeth.
Mae’r Gofrestr wedi ei rhannu fesul Awdurdod ac wedi ei is-rannu fesul Cyngor Cymuned.
Camau nesaf
Cyflwynwyd cyfanswm o 865 safle unigol ar y gofrestr. Yn unol â’r Fethodoleg Asesu Safleoedd Posib a gytunwyd rydym yn mynd trwy broses o hidlo gam wrth gam ar hyn o bryd. Bydd y broses yn mynd yn ei blaen hyd at gyhoeddiad y CDLl ar y Cyd Drafft Adneuo. Mae’r broses hidlo gam wrth gam yn golygu ymgynghori gydag asiantaethau statudol a mudiadau, fel Asiantaeth Amgylchedd, Dŵr Cymru, ac yn y blaen, yn ogystal ag adrannau/ gwasanaethau o fewn y Cynghorau, fel Priffyrdd, Hamdden ac Addysg. Mae effaith posib y safleoedd ar gynaliadwyedd yn ardal y Cynllun hefyd yn cael ei ystyried er mwyn gwneud yn siŵr bod y Cynghorau’n cwrdd â’u goblygiadau statudol o dan y Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS), Asesiad Cynaliadwyedd (AC) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC).
Mae’n bwysig nodi ei bod hi’n bosib i Safle Posib fydd yn llwyddo i fynd trwy’r broses hidlo fethu cael ei gynnwys yn y CDLl ar y Cyd Adneuo, gan y bydd rhaid iddo gyd-fynd a Gweledigaeth, Amcanion a Hoff Strategaeth y Cynllun hefyd. Bydd casgliadau’r broses hidlo’n cael eu cyhoeddi mewn Dogfen Gefndir maes o law.
Am ragor o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â ni.