Manylion
Fersiwn Drafft o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yw’r Cynllun Adnau.
Mae’n nodi polisi cynllunio arfaethedig Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn hyd at 2026, sy’n nodi beth y gellir ei adeiladu a lle y gellir ei adeiladu. Ar sail yr holl wybodaeth a gasglwyd a’r ymatebion i’r Hoff Strategaeth mae’r Cynllun yn nodi’r canlynol:
- gweledigaeth, amcanion a strategaeth,
- polisïau strategol a manwl i hybu a rheoli datblygiad,
- dynodiadau tir ar gyfer tai, safleoedd cyflogaeth a defnydd arall,
- polisïau i ddiogelu ardaloedd sensitif,
- mapiau sy’n dangos y cynigion a’r cyfyngiadau.
Bu'r Cynllun Adnau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 17:00 ar 31 Mawrth 2015. Ni fyddwn yn derbyn rhagor o sylwadau am y Cynllun Adnau, yr Asesiad Cynaliadwyedd na’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Rydym wrthi’n ystyried y sylwadau ar hyn o bryd a bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn gwneud penderfyniad amdanynt ym mis Ionawr 2016. Gallwch weld crynodeb o’r sylwadau trwy fynd i'r Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau yn y rhestr ddogfennau isod neu trwy fynd i'r Pwyntiau cyfeirio yn y copi rhyngweithiol o’r Cynllun Adnau.
Gallwch hefyd weld yr Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau yn y lleoliadau canlynol:
llyfrgelloedd cyhoeddus; Siop Gwynedd; Swyddfa’r Gwasanaeth Cynllunio, Llangefni; Swyddfa’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, Bangor.
Mae manylion yn egluro sut i weld / cael copi caled o’r sylwadau unigol yn yr Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau.
Nodwch mai adroddiad crynodeb yn unig yw'r Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau. Trwy gyhoeddi'r adroddiad nid yw'r Cyngor yn cefnogi'r sylwadau yn yr adroddiad, nac unrhyw 'safleoedd amgen' y cyfeirir atynt yn y sylwadau; maent yn cynrychioli barn yr unigolion neu'r sefydliadau a'u cyflwynwyd yn unig. Pwrpas yr adroddiad yw ei ddarllen yn unig - ni ddylid gwneud sylwadau arno.
Er gwybodaeth yn unig, gallwch weld:
Paratowyd amrywiaeth o Bapurau Testun a Phapurau Cefndir i roi rhagor o wybodaeth ac egluro’r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn y Cynllun Adnau o ran y pynciau a’r materion gwahanol sy’n effeithio ar ardal y Cynllun - gellir gweld y dogfennau yma.
Paratowyd amrywiaeth o asesiadau hefyd i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei ddatblygu mewn modd sy’n gynaliadwy, ac sy’n rhoi sylw i’w effaith ar yr iaith Gymraeg, cynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, iechyd cymunedau a grwpiau bregus. Gellir gweld adroddiadau’r asesiadau yma.
Statws
Cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi dod i ben ar 31 Mawrth 2015