Strategaeth Archwilio a Chofrestr Tir Halogedig
Mae’r safleoedd a all fod yn halogedig yn cynnwys safleoedd tirlenwi, hen weithfeydd nwy, hen sefydliadau milwrol, gorsafoedd petrol, hen danerdai, gweithfeydd cemegol, mwyngloddiau, chwareli, ac amryw safleoedd eraill â hanes diwydiannol.
O dan Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, mae gennym gyfrifoldeb i archwilio'r ardal o dro i dro er mwyn adnabod tir halogedig. Darllen ein Strategaeth Archwilio Tir Halogedig.
Mae'r ddogfen yn dangos sut y byddwn yn ymchwilio, yn adnabod tir halogedig, ei ddynodi a'i adfer.
Rydym wrthi'n rhoi sgôr risg i bob safle yn y sir a allai fod yn halogedig. Ar sail gwybodaeth 'data pwynt' o fapiau hanesyddol, mae 6555 safle a allai fod yn halogedig. Rydym yn defnyddio meddalwedd arbenigol (GeoEnviron 7.0 ac ArcMap 9.3) yn ogystal â hen fapiau a lluniau o'r awyr er mwyn amlinellu ffiniau pob safle a rhoi sgôr risg.
Cofrestr Gyhoeddus Tir Halogedig
Mae'n rhaid i'r Cyngor gadw cofrestr gyhoeddus sy'n gofnod llawn a pharhaol o bob cam rheoleiddio a gymerwyd er mwyn adfer tir halogedig. Rhaid cadw'r wybodaeth hon ar y gofrestr:
- Rhybuddion Adfer (ac apeliadau yn erbyn rhybuddion)
- Cyhoeddiadau Adfer
- Datganiadau Adfer
- apeliadau yn erbyn Rhybuddion Codi Tâl / Cyhuddo
- hysbysiad o adfer a hawliwyd
- collfarnau am droseddau dan adran 78M o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 rhan IIA
- arweiniad a roddwyd dan adran 78V(1) o'r ddeddf (gan Asiantaeth yr Amgylchedd)
- rheoliadau amgylcheddol eraill (pan nad yw'n bosib i'r Cyngor roi Rhybudd Adfer).
Dyma'r wybodaeth sydd ar y gofrestr:
Gallwch hefyd weld y gofrestr yn Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, LL53 5AA yn ystod oriau swyddfa. I drefnu apwyntiad, ffoniwch y Swyddog Amgylchedd ar 01758 704 125 neu e-bostiwch
llygredd@gwynedd.llyw.cymru