Cefnogaeth i fusnesau
Mae Gwaith Gwynedd yn cynnig cefnogaeth 1 i 1 i unigolion gyda Mentoriaid , er mwyn ehangu eu datblygiad proffesiynol drwy ffeindio gwaith, datblygu mewn gyrfa a mynediad i hyfforddiant.
Mae Gwaith Gwynedd yn darparu ystod eang o wasanaethau i gyflogwyr yng Ngwynedd er mwyn cyrraedd newidiadau y farchnad lafur leol.
Gwasanaethau medrwn gynnig i’ch busnes yn cynnwys:
- Gwahoddiad i ffeiriau swyddi a digwyddiadau gyrfa er mwyn hyrwyddo eich swyddi ac rhwydweithio a busnesau eraill
- Cyd drefnu diwrnod recriwtio ar eich safle, gweithdai sgiliau ac/neu sesiynau recriwtio
- Cynorthwyo i lenwi bylchau mewn sgiliau ac hyfforddiant
- Hyrwyddo eich swyddi am ddim gyda’n mentoriaid profiadol ac ar ein hysbysfwrdd swyddi
- Cefnogi chi i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Os ydych chi yn teimlo byddwch yn elwa o gefnogaeth gan Gwaith Gwynedd byddwn yn awyddus i glywed gennych chi. Rydym o hyd yn cefnogi cleientiaid sydd yn barod ac yn awyddus i gychwyn gwaith cyn gynted a phosib.
Cysylltwch gyda Rebecca Williams, ein Cynghorydd Ymgysylltu a Chyflogwyr, ar rebeccawilliams@gwynedd.llyw.cymru neu 07425505750.
Os nad yw’r ddarpariaeth yn addas i chi, medrwn eich cynorthwyo i wneud cysylltiadau hefo darparwyr ac sefydliadau eraill fedr roi cyngor ac arweiniad i’ch busnes chi.
Neu llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu yn nôl â chi:
Gwaith Gwynedd - cais am alwad ffôn