Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC) yw’r mynegai swyddogol ar gyfer mesur amddifadedd mewn rhannau bychain o Gymru. Mae'n ddull o fesur dwysedd yr amddifadedd ar lefel ardaloedd bach.
Mae mwy i amddifadedd na thlodi yn unig. Golyga tlodi brinder arian, ond mae amddifadedd yn cyfeirio at broblemau ehangach a achosir gan brinder adnoddau a chyfleoedd. Mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol fath ar amddifadedd, fel a ganlyn:
- incwm
- tai
- cyflogaeth
- mynediad at wasanaethau
- addysg
- iechyd
- diogelwch cymunedol
- yr amgylchedd ffisegol
Rhannwyd Cymru'n 1,909 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ac mae tua 1,600 o bobl ymhob ardal. Trefnwyd pob un o'r ardaloedd hyn yn ôl lefel yr amddifadedd: caiff yr LSOA fwyaf amddifad ei rhoi'n 1, a'r lleiaf amddifad ei rhoi'n 1,909. Caiff un ardal ei gosod ar lefel amddifadedd uwch nag un arall os oes cyfran uwch o bobl yn byw yno sy'n cael eu cyfri'n amddifad.
Nid yr ardal ei hun sy'n amddifad ond amgylchiadau a ffordd o fyw pobl yr ardal a dyna sy'n cyfrif am y raddfa amddifadedd. Mae'n bwysig cofio nad pobl amddifad yw pob un sy'n byw mewn ardal o amddifadedd, ac nad mewn ardal o amddifadedd yn unig y mae pobl amddifad yn byw.
Mae MALlC yn addas at ddibenion lle mae diddordeb mewn ardaloedd sydd â dwysedd uchel o amddifadedd. Caiff ei ddefnyddio i:
- roi graddfa gyffredinol o amddifadedd i bob un o'r 1,909 LSOA yng Nghymru
- rhoi graddfeydd ar gyfer y gwahanol feysydd o amddifadedd ym mhob LSOA
- cymharu'r graddfeydd amddifadedd mewn dwy neu ragor o'r LSOA
- cymharu dau awdurdod lleol neu ragor (neu grwpiau eraill o LSOA) drwy edrych ar gyfran yr LSOA yn yr awdurdod lleol yn (dyweder) y 10 y cant mwyaf amddifad yng Nghymru.
Ni ellir defnyddio'r mynegai i:
- fonitro newid dros gyfnod
- dweud faint yn fwy amddifad y mae un ardal o gymharu ag un arall
- crynhoi i ddaearyddiaeth wahanol drwy gyfrif cyfartaledd graddfeydd yr LSOA sy'n rhan o'r ddaearyddiaeth honno.
I weld y lefelau o amddifadedd yng Ngwynedd yn ôl pob parth ewch i:
Gwybodaeth bellach