Cyfrifiad 2021
Cafodd y Cyfrifiad diwethaf ei gynnal ar 21 Mawrth 2021.
Arolwg sy'n cael ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.
Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf.
Roedd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, roedd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.
Yng Nghymru, roedd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.
Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk
Crynodeb o'r canlyniadau yn eich ardal chi
I weld crynodeb o'r canlyniadau yn eich ardal chi, rhowch eich côd post yn y blwch isod, a dewiswch eich cyfeiriad. Yna, chwiliwch am y pennawd 'Ystadegau am eich ardal' er mwyn gweld y data.