Llifogydd
Cysylltu â ni mewn argyfwng
Ffoniwch ni 24 awr y dydd ar
01766 771000
neu ewch i'r dudalen Cysylltu mewn argyfwng am ragor o rifau cyswllt.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am hyn.
Y diweddaraf yn ystod llifogydd
Yn ystod cyfnod o dywydd garw difrifol bydd gwybodaeth am wasanaethau a chyflwr y ffyrdd ar gael ar gyfrif Facebook Cyngor Gwynedd.
(Nid oes angen cyfrif Facebook er mwyn gweld yr wybodaeth).
Ffyrdd a phriffyrdd
I roi gwybod am broblem ar y ffordd oherwydd llifogydd, dŵr sy'n sefyll, neu gyli wedi blocio cysylltwch â ni:
Cysylltu â ni ar-lein - llifogydd
Gwybodaeth teithio
Rhybuddion llifogydd
I weld rhestr o rybuddion llifogydd a chyngor ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch 03000 65 3000.
Os ydych yn byw mewn ardal sy’n dioddef llifogydd manteisiwch ar system Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n eich rhag rybuddio am lifogydd. Mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim.
Bagiau tywod
Bydd y Cyngor yn ceisio darparu bagiau tywod i bobl sy'n gofyn amdanynt os oes risg uchel o lifogydd buan i'r eiddo. Mae gallu'r Cyngor i ddarparu bagiau tywod yn ddibynnol ar y galw sydd ar y gweithwyr oherwydd maint a difrifoldeb y llifogydd.
I wneud cais am fagiau tywod, cysylltwch â ni:
Cais am fagiau tywod
Neu mewn argyfwng ffoniwch 01766 771000.
Gwastraff ac ailgylchu
Rhowch eich gwastraff allan fel arfer yn ystod cyfnod o lifogydd os yw'n ddiogel i wneud hynny. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’w gasglu. Mwy o wybodaeth biniau ac ailgylchu
Ysgolion
Rhestr o ysgolion sydd wedi cau
Llyfrgelloedd
Rhestr llyfrgelloedd sydd wedi cau
Cyngor iechyd i rai sydd wedi dioddef llifogydd
Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth lanhau ar ôl lifogydd. Fe all dŵr llifogydd fod yn llygredig. Os rydych yn dod i gyswllt â dŵr llif neu eitemau sydd wedi difrodi gan ddŵr llifogydd, Mae gwybodaeth a chyngor ar gael drwy fynd i wefan: