Telerau ac amodau Casgliad Gwastraff Swmpus
- Gwneir y cytundeb hwn rhwng y preswylydd ('y cwsmer') a Chyngor Gwynedd ( 'y Cyngor') o Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BF.
- Mae’n nodi'r telerau a'r amodau i’r cwsmer ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor ( 'y gwasanaeth’). Os yn talu gyda cerdyn credyd neu debyd bydd dyddiad y casgliad yn cael ei roi i chi cyn i chi wneud taliad. Os yn talu gyda siec byddwch yn derbyn dyddiad casglu ar ôl i’r gwasanaeth dderbyn y siec. Gall y Cyngor amrywio neu newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael 10 diwrnod o rybudd ysgrifenedig o unrhyw newidiadau o'r fath.
- Pris y gwasanaeth yw £31. Byddwn yn casglu hyd at 5 eitem am y pris hwn. Gall cwsmer dalu £62 i ni gasglu 10 eitem.
- Gall gwsmer dalu’r Cyngor gyda cherdyn credyd/ debyd dros y ffon neu ar-lein trwy wefan Cyngor Gwynedd neu gyda arian parod neu siec yn un o Siopau Gwynedd. · Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bellter gallwch wneud cais i ganslo ar-lein trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar wefan Cyngor Gwynedd (www.gwynedd.llyw.cymru) neu dros y ffon (01766 771 000) hyd at 10 diwrnod cyn dyddiad y casgliad a chael ad-daliad llawn.
- Os bydd cwsmer yn canslo llai na 10 diwrnod cyn y casgliad ni fydd cwsmer yn derbyn ad-daliad. Gall y gwasanaeth gynnig ad-daliad mewn amgylchiadau arbennig, disgresiwn y gwasanaeth fydd hyn.
- Y gwasanaeth mae’r Cyngor yn ei gynnig i’r cwsmer gyda Chasgliad Swmpus yw casglu eitemau nad oes modd eu cyflwyno yn y casgliadau gwastraff tŷ arferol (gwasanaeth bin olwyn/sachau du). Rhaid i’r eitemau hyn gael eu cyflwyno mewn lleoliad amlwg a chyfleus sydd ddim yn achosi unrhyw rwystr i eraill e.e o fewn cwrtil yr eiddo ble maen hwylus i’r casglwyr gael mynediad (gardd ffrynt/gardd gefn). Ni fydd gweithwyr Cyngor Gwynedd yn mynd fewn i unrhyw dŷ i gasglu unrhyw eitem. Os nad yw’r eitemau yn cyd-fynd a’r eitemau a nodwyd wrth gyflwyno’r cais ni fydd gweithlu Cyngor Gwynedd yn casglu’r eitemau hyn. Os nad yw’n amlwg pa eitem/eitemau sydd angen eu casglu ni fydd casgliad yn cymryd lle.
- Os yw’r eitemau angen eu casglu o gefn y tŷ neu leoliad ble mae mynediad drwy ddefnydd o lwybr rhaid gofalu nad oes unrhyw rwystr a bod mynediad diogel i weithlu Cyngor Gwynedd.
- Os bydd eitemau wedi eu gadel allan am gyfnod hir a drwy hynny wedi gwlychu gan gynyddu pwysau’r eitem yn sylweddol (er enghraifft rôl o garped neu fatres gwely) mae gan weithlu y Cyngor hawl i wrthod eu casglu. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod casglu unrhyw eitem sydd yn beryglus neu yn rhu drwm i weithlu’r Cyngor eu codi.
- Dim ond os ydych wedi archebu eich casgliad o flaen llaw y byddwn yn casglu eich gwastraff swmpus.
- Rhaid gadael eich eitemau yn y man casglu a nodwyd wrth gyflwyno’r cais cyn 06:00 y bore a’r fore’r casgliad. Gydag eitemau sydd yn cael eu heffeithio gan y tywydd (carped/matresi) mae’n bwysig eu rhoi allan mor agos i’r amser casglu ac sydd yn ymarferol bosib fel nad oes sgil effaith ar allu gweithlu’r Cyngor i’w casglu.
- Nid ydym yn casglu unrhyw wastraff masnachol neu wastraff adeiladwyr.
- Rhaid tynnu eitemau fel gwlau a siediau oddi wrth eu gilydd cyn eu cyflwyno. Nid ydym yn casglu siediau sydd yn fwy na 8 troedfedd x 6 troedfedd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw beth sydd ag asbestos ynddo.
Gwneud cais am gasgliad gwastraff swmpus ar-lein