Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd sy'n cefnogi pobl ar incwm isel neu'n ddi-waith. Mewn amser bydd yn cymryd lle’r 6 budd-dal oed gwaith canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.gov.uk/credyd-cynhwysol

Mae Gwynedd yn ardal wasanaeth Credyd Cynhwysol Llawn. 

  • Mae Credyd Cynhwysol LLAWN ar gael i bob math o ymgeiswyr mewn oed gwaith.
  • Fe fydd gennych gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i reoli eich cais. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif i adrodd am newidiadau, anfon negeseuon i’ch hyfforddwr gwaith a dod o hyd i gefnogaeth.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.gov.uk/credyd-cynhwysol

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd rhaid gwneud cais ar-lein (dim ffurflenni papur ar gael).

Cyn i chi ddechrau gwneud cais, bydd raid i chi sicrhau fod y canlynol gennych:

  • eich rhif Yswiriant Cenedlaethol
  • manylion eich banc, cymdeithas adeiladu neu Undeb Credyd, fel y gellir talu eich Credyd Cynhwysol yn syth i’ch cyfrif
  • eich cytundeb rhent (os oes gennych un)
  • manylion unrhyw gynilion a chyfalaf arall
  • manylion o unrhyw incwm ar wahân i waith, er enghraifft incwm o gynllun yswiriant
  • manylion unrhyw fudd-daliadau eraill a delir i chi yn barod

Mae gwefan y llywodraeth hefyd yn cynnwys manylion am sut i gysylltu efo’r llinell gymorth, a dolennau i amryw o dudalennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol

Mae’r Cyngor yn gallu eich helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol trwy ddarparu mynediad am ddim i ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd ar wahanol safleoedd ledled Gwynedd.

Yn rhai o’r safleoedd bydd staff wedi'u hyfforddi yn bresennol i’ch helpu i wneud cais.

Am fwy o wybodaeth Cysylltwch â ni

Ni fydd pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn derbyn Budd-dal Tai. Fe all eu Credyd Cynhwysol gynnwys elfen o Gostau Tai, ac mi fydd tenantiaid yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian yma i dalu eu rhent, hyd yn oed os oes diffyg rhwng yr arian maent yn ei dderbyn a’r gwir rent.

Mae’r Llywodraeth wedi darparu cyngor ac arweiniad i denantiaid a landlordiaid ar eu gwefan, sydd yn cynnwys y trefniadau i’w dilyn ar gyfer gwneud cais am daliadau uniongyrchol os oes tenant gydag ôl-ddyledion rhent. Gellir gwneud cais am daliadau uniongyrchol drwy gysylltu â’r Gwasanaeth Credyd Cynhwysol – mae’r manylion yma i gyd ar gael ar wefan Universal Credit and rented housing y Llywodraeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:  

E-bost: budd-daliadau@gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01286 682689

 

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni

Universal credit