Cronfa Rhandiroedd
Grant Cyfalaf Rhandiroedd
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau rhandiroedd sy’n cyflawni un neu fwy o’r canlynol
- Creu rhandir / Rhandiroedd newydd
- Dod â hen randiroedd yn ôl i ddefnydd
- Gwella mynediad i randiroedd
- Gwella cyfleusterau a gwasanaethau ar randiroedd
- Gwella diogelwch safle randiroedd
- Gwella ailgylchu ar randiroedd
- Gwella bio-amrywiaeth ar randiroedd
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o randiroedd.
Gall eitemau gwariant cymwys gynnwys y canlynol (ond nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr) :-
- Cyfalaf –deunyddiau adeiladu / ffensys / giatiau / arwyddion
- Cyfalaf – offer mawr megis siediau, tŷ gwydr, polytunnels, storfeydd, casglwr dŵr
- Cyfalaf – gwaith adeiladu a paratoi tir
- Cyfalaf - offer T.G. i reoli, hyrwyddo rhandiroedd
Grant sydd ar gael
Gwahoddir ceisiadau am brosiectau bychan i wneud ceisiadau am weddill y grant ar gyfer 2023/2024 - i’w wario erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Gwahoddir ceisiadau hefyd am brosiectau ar gyfer y grant am y flwyddyn 2024/2025.
Sut i wneud cais:
Gwahoddir geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol.
Dylech anfon cais erbyn 1 Rhagfyr 2023 i cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Help gyda’ch cais
Mae Swyddogion Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi. Mae manylion y swyddogion hyn isod: