Cronfa Cefnogi Cymunedau - Cist Gwynedd
Grant ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd ydi’r Gronfa Cefnogi Cymunedau. Y nod yw cefnogi cynlluniau a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau’r sir.
Ydych chi'n glwb chwaraeon?
Y Gronfa Cymru Actif ydi'r un fwyaf perthasnol i glybiau chwaraeon. Am wybodaeth neu gymorth am y gronfa hon, cysylltwch â Rheolwr Uned Partneriaethau Byw’n Iach a’r 07795012706 neu Cyswllt@bywniach.cymru
Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol wneud cais. Bydd y grant yn cael ei ddyfarnu i gynlluniau sy'n adlewyrchu un neu fwy o'r amcanion isod:
- Annog cymunedau i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
- Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol. ieithyddol a diwylliannol y gymuned
- Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
- Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
- Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
- Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
- Annog gwarchod a chyfoethogi'r amgylchedd.
Gallwch wneud cais am grant hyd at £10,000 (cyfalaf neu refeniw).
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl teilyngdod.
Ffurflen gais
E-bostiwch y ffurflen ar ôl ei llenwi at cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu gyrrwch gopi papur at:
Swyddog Cist Gwynedd, Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn trafod eich cais gyda Swyddog Cefnogi Cymunedau’r ardal berthnasol cyn cyflwyno eich cais.
Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu yn chwarterol ond bydd y 'rowndiau' ymgeisio fydd ar gael yn dibynnu ar faint o arian fydd ar gael bob tro. Sicrhewch fod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol wedi eu hanfon (yn ddelfrydol dros e-bost).
Canllawiau a ffurflenni cais
Gallwch hefyd gysylltu drwy e-bostio
CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 01286 679870