Cronfeydd Cefnogi (SPF)
Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, mae oddeutu £20m wedi ei glustnodi ar gyfer sir Gwynedd gyda peth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu Cronfeydd ar gyfer cefnogi prosiectau yn y maes Adfywio. Fel rhan o’r cynllun mae Cyngor Gwynedd yn agor 3 Cronfa;
- Cronfa Cefnogi Adfywio
- Cronfa Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif
- Cronfa Cefnogi Busnes
Mae’r Cronfeydd Cefnogi Adfywio, Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol â threfnwyr digwyddiadau) i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i gefnogi prosiectau fydd yn gwella ansawdd trigolion a chymunedau’r Sir, ar sail cyflwyno ceisiadau.
Mae’r cronfa Byw’n Iach ac Actif bellach wedi cau.
Mae Cronfa Cefnogi Digwyddiadau bellach wedi cau.