Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn

Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn yn ymwneud â:

  • pheidio â chlirio neu godi baw ci 
  • gadael i gi fynd ar dir lle mae cŵn wedi eu gwahardd
  • peidio rhoi, a chadw ci ar dennyn pan ofynnir i’r person wneud hynny gan swyddog awdurdodedig

Gweld Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Cyngor Gwynedd: Rheoli Cŵn

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Cyngor Gwynedd (Rheoli cŵn) 2024


Bydd peidio â chydymffurfio gyda’r gorchymyn yn arwain at rybudd cosb penodedig o £100 (wedi ei ostwng i £75, os telir o fewn 10 diwrnod gwaith) neu erlyniad.


Beth mae hyn yn golygu i berchnogion cŵn?

Bydd yn drosedd i beidio â glanhau ar ôl eich ci ar holl diroedd cyhoeddus yng Ngwynedd.

Bydd cŵn yn cael eu gwahardd o:

  • dir o fewn ffiniau ysgolion, sefydliadau addysg uwch a phellach
  • caeau chwarae plant
  • tir hamdden
  • ardaloedd dynodedig ar draethau penodol rhwng 1 Ebrill a 30 Medi - Gweld rhestr a mapiau o'r traethau.

Bydd rhaid rhoi cŵn ar dennyn yn dilyn cyfarwyddyd gan swyddog awdurdodedig, petai’r swyddog o’r farn fod y ci yn achosi niwsans neu bryder mewn mannau cyhoeddus agored.

Eithrir cŵn cymorth ar gyfer pobl gydag anableddau o’r gorchymyn. 

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth am y Gorchmynion Rheoli Cŵn ffoniwch Galw Gwynedd 01766 771000 neu anfonwch e-bost rheolicwn@gwynedd.llyw.cymru