Planhigion Ymledol
Mae rhywogaeth ymledol anfrodorol yn un sydd wedi'i gludo allan o'i gynefin naturiol ac sydd wedyn yn peryglu adnoddau amgylcheddol, amaethyddol ac economaidd yn y cynefin newydd.
Mae planhigion ymledol yn rhai ymosodol ac yn tueddu i oresgyn fflora brodorol mewn nifer o gynefinoedd gwahanol, gan gynnwys pyllau, ffosydd, nentydd, coedlannau, tiroedd glas ac ymylon ffyrdd. Gan nad oes bron ddim yn bwydo arnynt, maent yn trechu planhigion brodorol ond heb fod o fawr werth fel ffynhonnell bwyd i ffawna brodorol.
Mae'r rhestr isod yn nodi'r planhigion sydd yn achosi fwyaf o bryder yma yng Ngwynedd:
Planhigion Tir
Llysiau'r Dial (Fallopia japonica)
Rhododendron (Rhododendron ponticum)
Ffromlys Chwarennog (Impatiens glandulifera)
Efwr Enfawr (Heracleum mantegazzianum)
Planhigion Dyfrol
Dail Ceiniog Arnofiol (Hydrocotyle ranunculoides)
Briweg y Gors Awstralia (Crassula helmsii)
Dail Parot (Myriophyllum aquaticum)
Rhedyn y Dŵr (Azolla filiculoides)
Cofnod
Mae Cofnod, Canolfan Gwasanaeth Gwybodaeth Ogledd-orllewin Cymru, yn casglu bas data o blanhigion ymledol yng Ngwynedd. Gallwch gofnodi unrhyw rywogaethau estron drwy ddefnyddio eu ffurflen ar-lein 'Cofnodi Dieithriaid' (Gallwch glicio ar y 'tab' 'Cymraeg' er mwyn cael y fersiwn Gymraeg).
Nid ydynt yn ymdrin â phroblemau sydd ymwneud a rhywogaethau ymledol. Felly, peidiwch a chysylltu os ydych angen adrodd problem neu ofyn am gyngor.
Ffactorau sy'n achosi ymlediad y planhigion hyn yng Ngwynedd
- Planhigion dieithr yn cael eu cario ar esgidiau, mewn ceir neu gyda nwyddau a werthir
- Planhigion yn cael eu gwerthu fel planhigion addurnol mewn canolfannau garddio a / neu eu plannu’n fwriadol mewn gerddi
- Diffyg gelynion naturiol penodol megis anifeiliaid sydd yn pori a phathogenau
- Gwasgaru hadau mewn afonydd
- Symud pridd a / neu ddeunydd wedi ei ddifwyno oddi ar safleoedd sydd wedi eu heffeithio
- Symud peiriannau ac offer wedi eu difwyno rhwng systemau dŵr. Er enghraifft, cychod, offer pysgota
- Gwaredu anaddas a / neu anghyfreithlon o doriadau, yn enwedig canclwm Siapaneaidd. Er enghraifft, taflu ysbwriel.
- Gweithgareddau sydd yn aflonyddu ar lystyfiant a’r pridd oddi tano
- Effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd. Mae amodau fel tymheredd uwch, crynodiadau carbon deuocsid uwch a thywydd mwy stormus yn fwy ffafriol i rywogaethau anfrodorol. Er enghraifft, mae gaeafau cynhesach yn gymorth i’r rhedyn dŵr gynyddu.
Mae’r Cynllun Gweithredu ‘Planhigion Ymledol’ o fewn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (Cynllun Natur Gwynedd) yn amlinellu gwaith er mwyn ymdrin â’r planhigion hyn. Os ydych yn ymwybodol o bresenoldeb rhai o'r planhigion ymledol hyn, yn enwedig planhigion dyfrol, yna cysylltwch â 'Cofnod' drwy gwblhau'r ffurflen adrodd ar-lein
Os ydych yn ansicr wrth adnabod y planhigion yna mae croeso i chi anfon llun digidol i'r Tîm Bioamrywiaeth.
Rhagor o wybodaeth: