Beth yw nwyddau ffug?
Nwyddau sydd wedi eu creu i edrych fel nwyddau cofrestredig yn fwriadol yw nwyddau ffug. Mae nwyddau ffug yn broblem cenedlaethol ac mae mwy a mwy o nwyddau ffug ar gael. Gall nwyddau ffug gael eu hadnabod fel 'pirated','replicas' neu 'copiau'. Gall nwyddau ffug gynnwys dillad, gemwaith, offer trydanol, persawr, batris ceir, teganau plant a llawer mwy.
Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn cael bargen, ond byddwch yn wyliadwrus. Nid yw cwmnïau mawr yn rhoi gostyngiadau sylweddol ar eitemau, a gallech gael eich twyllo i dalu swm sylweddol o arian am eitem peryglus neu israddol.
Pam na ddylech brynu nwyddau ffug? :
Torri'r gyfraith
Os yw cwmni wedi cofrestru dyluniad/logo eu eitem, yna byddai’n anghyfreithlon prynu nwyddau ffug sydd yn defnyddio yr un dyluniad/ logo (trademark) a’r cwmni yna heb eu caniatâd. Mae prynu nwyddau ffug gan droseddwyr yn rhoi mwy o arian iddynt barhau i dwyllo cwsmeriaid.
Eich diogelwch chi
Yn y rhan fwyaf o achosion mae nwyddau ffug yn rai o ansawdd gwael ac yn beryglus-
- Dillad plant – ni fydd dillad ffug plant wedi eu profi yn unol â deddfwriaeth diogelwch - os o gwbwl
- Sbectol haul – efallai na fyddent yn amddiffyn eich llygaid rhag belydrau niweidiol
- Offer trydanol – Efallai nad ydynt wedi eu profi yn unol â deddfwriaeth diogelwch - os o gwbl
Os yn prynu nwyddau ffug dros y we rydych mewn perygl o rhyddhau gwybodaeth amdanoch chi eich hun neu eich manylion banc i droseddwyr.
Trefn gwyno
Mae nwyddau ffug yn cael eu gwerthu am bris rhatach na'r nwyddau gwreiddiol felly mae'n golygu fod ansawdd nwyddau ffug yn salach. Nid oes gan cwmnïau sydd yn gwerthu nwyddau ffug unrhyw fath o drefn gwyno, a byddech yn annhebygol o dderbyn unrhyw fath o iawndal ariannol os wedi derbyn nwyddau diffygiol neu israddol.
Effeithio'r economi lleol
Mae prynu a gwerthu nwyddau ffug yn cael effaith ar fusnesau gonest. Achosai hyn effaith ar yr economi leol e.e siopau/ ffatrïoedd yn cau, diswyddiadau.
Nwyddau Ffug a'r Gyfraith
Mae'n debygol iawn fod pobl sydd yn creu nwyddau ffug drwy ddefnyddio Nodau Masnach sydd wedi ei gofrestru pan nad ydynt wedi ei awdurdodi, mwy na thebyg yn torri'r gyfraith o dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994 neu o dan y Rheoliadau Diogelu’r Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
Sut allaf amddiffyn fy hyn?
- Os yn prynu ar-lein, gwiriwch yr URL, yn aml bydd gwallau sillafu yn yr URL ac yn y wefan
- Gwiriwch lle mae'r masnachwr wedi ei leoli. Byddwch yn wyliadwrus os nad oes cyfeiriad llawn, a mai dim ond e-bost neu cyfeiriad PO BOX sydd ar gael.
- Os yn gwneud taliad ar-lein, gwiriwch fod URL y dudalen yn cychwyn gyda 'https'
- Os yn defnyddio gwefan am y tro cyntaf – gwnewch waith ymchwil. Mae pobl yn barod i hysbysu pobl eraill o beryglon mewn fforwm ar-lein.
- Peidiwch ac agor lincs mewn e-byst
- Sicrhewch fod eich meddalwedd diogelwch wedi ei ddiweddaru
- Peidiwch a chymryd yn ganiataol fod gwefan '.co.uk' wedi ei leoli ym Mhrydain. Mae troseddwyr wedi datblygu ffyrdd i newid gwir leoliad ble maent yn gweithredu.
Gwefannau Defnyddiol
Cysylltu â ni
Peidiwch a twyllo'ch hun, prynwch nwyddau dilys a rhowch wybod i ni am eitemau ffug: Ymholiad ar-lein: safonau masnach
Adrodd pryder ar-lein: safonau masnach