Help i gael bwyd
Banciau bwyd
Mae banciau bwyd yn rhoi bwyd i bobl pan mae nhw mewn argyfwng, heb fwyd.
Gweld rhestr banciau bwyd
Pantri bwyd
Mae Pantri Bwyd yn rhoi pecynnau o fwyd fforddiadwy i bobl, gan amlaf am gyfraniad bychan. Gallwch ddefnyddio pantri lleol fel ffordd arall o gael b
wyd iach a fforddiadwy, a byddwch yn helpu i stopio’r bwyd hwnnw rhag mynd i wastraff.
Gweld mwy am y Pantris Bwyd
Cinio ysgol am ddim
Os oes gennych blentyn oed ysgol mae hefyd yn bosib y gallwch hawlio cinio ysgol am ddim
Gweld manylion cinio ysgol am ddim
Cymorth os yn feichiog / gyda plant ifanc
Os ydych yn feichiog neu efo plentyn o dan 4 oed gallwch hefyd dderbyn cymorth i brynu bwyd a llefrith drwy'r cynllun Cychwyn Iach:
Help i brynu bwyd a llefrith (Cychwyn Iach)
Ryseitiau i arbed gwastraff bwyd
Casgliad o ryseitiau yn defnyddio cynhwysion syml, hawddi'w cael, a rhai ohonynt yn bethau sydd yn aml yn cael eu gwastraffu:
Ryseitiau i arbed gwastraff bwyd
Hybiau Cymunedol
Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.
Gweld manylion cyswllt hybiau lleol