Ardaloedd Cadwraeth
Beth ydi Ardal Gadwraeth?
Mae Ardal Gadwraeth yn ardal sydd o ddiddordeb hanesyddol, cymdeithasol neu bensaernïol arbennig. Fel Cyngor rydym yn ymdrechu i warchod a gwella ansawdd yr ardaloedd hyn.
Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am ddynodi ardal yn Ardal Gadwraeth o fewn y sir (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri).
Ardaloedd Cadwraeth a chaniatâd cynllunio
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith neu ddymchwel adeilad mewn Ardal Gadwraeth bydd rheolau ychwanegol y byddwch angen eu hystyried, ac mae’n bosib y byddwch angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd Ardal Cadwraeth.
Cyn cychwyn ar unrhyw ddatblygiad mewn Ardal Gadwraeth, rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn cysylltu â ni i weld os ydych angen caniatâd ai peidio. Mae posibilrwydd y cewch eich erlyn os cewch eich dal yn gwneud gwaith heb ganiatâd.
Cysylltwch â ni:
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio / ardal gadwraeth
Am wybodaeth ynglŷn â chyflwyno cais cynllunio / ardal gadwraeth, ewch i'r adran gynllunio ar y wefan hon.
Os byddwch yn gwneud gwaith i du allan adeilad mewn Ardal Gadwraeth, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn grant tuag at y gwaith gan Cadw.
Coed mewn ardaloedd cadwraeth
Mae rheoliadau ychwanegol yn bodoli os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar goed mewn Ardal Gadwraeth. Am ragor o wybodaeth a chyngor, ewch i:
Rhagor o wybodaeth
COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.