Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth
Mae 40 o Ardaloedd Cadwraeth yng Ngwynedd (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri).
I weld a yw'r goeden rydych yn bwriadu gwneud gwaith arni mewn Ardal Gadwraeth, ewch i'r:
Byddwch hefyd angen ystyried a yw’r goeden wedi ei gwarchod o dan Orchymyn Diogelu Coed.
Gwaith ar goed mewn Ardal Gadwraeth
Mae’n drosedd gwneud gwaith ar goeden (gyda bonyn sy'n fwy na 75mm (3") wedi ei fesur 1.5 medr (5") o uchder uwchben lefel y ddaear naturiol) mewn Ardal Gadwraeth heb roi o leiaf 6 wythnos o rybudd.
Mae hyn yn golygu torri unrhyw goeden neu rhai o ganghennau'r goeden, tocio, dadwreiddio, ayyb.
Gallwch gyflwyno rhybudd:
- Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen Cais am waith ar goed (pdf) a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen ei hun
- Ffôn: Ffoniwch 01766 771000 a gofyn i ffurflen bapur gael ei phostio i chi.
Bydd y Cyngor yn ymweld â'r safle er mwyn asesu'r cais. Mewn rhai achosion, bydd Gorchymyn Diogelu Coed yn cael ei osod ar y goeden.
Gwaith ar goeden beryglus / wedi marw mewn Ardal Gadwraeth
Os yw’r goeden wedi marw neu yn beryglus, bydd rhaid rhoi o leiaf 5 diwrnod o rybudd (ni fydd angen i chi gyflwyno cais ffurfiol i dorri'r goeden).
Gallwch gyflwyno rhybudd:
- Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
- Drwy lythyr: wedi ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:
COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.