Cerbydau wedi eu gadael
Os oes car wedi ei adael yng Ngwynedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio
Byddwn yn ceisio delio gyda’ch cwyn cyn gynted â phosib er mwyn osgoi unrhyw sgil effeithiau negyddol ar y gymuned a’r amgylchedd.
Beth sy’n cael ei ystyried fel “cerbyd wedi ei adael”?
Cerbyd sydd wedi ei adael gan y perchennog heb unrhyw fwriad o ddychwelyd.
Ni ddylid adrodd am gerbyd fel un sydd wedi ei adael am y rhesymau canlynol yn unig:
- Nad ydyw wedi ei drethu
- Oherwydd ei fod mewn man parcio
- Oherwydd fod y cerbyd mewn cyflwr blêr ac yn anharddu’r ardal
Os yw cerbyd yn rhwystro mynediad, yn rhwystro’r briffordd, neu wedi ei barcio yn beryglus rhowch wybod i’r Heddlu.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01766 771000