Llwybr beicio Llanrug i Gaernarfon
Mae Cyngor Gwynedd yn datblygu lôn feicio newydd o Lanrug i Gaernarfon, er mwyn gwella'r cysylltiad rhwng cymunedau, atyniad allweddol yng Nghaernarfon a'r ardal gyfagos.
Y cyfleoedd
- Llwybr sy'n darparu cysylltiad rhwng cymunedau ac atyniadau lleol yng Nghaernarfon fel y castell, Canolfan Hamdden Arfon ac Ystad Ddiwydiannol Cibyn.
- Darparu llwybr diogel i feicwyr a cherddwyr
- Llwybr uniongyrchol i mewn i Gaernarfon sy'n gyffyrddus ac yn hawdd ei ddefnyddio
- Llwybr sy'n lleihau gwrthdaro ar y ffyrdd
- Yn annog pobl i gerdded a beicio at ddibenion gwaith a hamdden
- Dewis llwybr sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf
Y prosiect
Cam 1: Dechreuodd y prosiect trwy edrych ar ardal yr astudiaeth o fewn y llinell goch y map hwn. I ddod o hyd i'r llwybr mwyaf addas, edrychwyd ar ddeg llwybr gwahanol.
Gweld y llwybr arfaethedig
Cam 2: Ar ôl asesu bob llwybr, dewiswyd un llwybr a dderbynnir i'w hastudio ymhellach. Gellir gweld gwybodaeth am y lwybr drwy ddilyn y ddolen isod. Gweld manteision ac anfanteision y llwybr a argymhellir.
Ein argymhelliad
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch trafnidiaeth@gwynedd.llyw.cymru
Dweud eich dweud
Cwblhau'r holiadur
Mae'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben 8 Chwefror 2021.