Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ganllaw Cynllunio Atodol
‘Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru’
Mae Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisiau eich barn chi ynglŷn â Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru’
Gweld CCA Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru
Rhoi eich barn
Cwblhewch y ffurflen ymateb isod er mwyn i roi eich barn ar gynnwys y ddogfen:
Dychwelwch y ffurflen i:
Neu gyrrwch eich sylwadau drwy e-bost neu lythyr yn defnyddio y manylion cyswllt uchod.
Rhaid cyflwyno sylwadau erbyn 4pm, dydd Mercher 9 Chwefror, 2022.
Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad?
Yn dilyn yr arysgrif lwyddiannus o Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi paratoi Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar y cyd sy'n rhoi arweiniad a rhagor o fanylion angenrheidiol am bolisïau penodol yn y Cynlluniau Datblygu Lleol. Dylai'r Canllaw hyn, felly, roi mwy o sicrwydd i ymgeiswyr, a'u helpu nhw i baratoi ceisiadau cynllunio addas i'w cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio.