Canlyniadau Ardal Ni 2035
- Beth sy’n dda am eich ardal leol?
- Beth sydd ddim mor dda?
- Beth sydd angen newid er mwyn gwneud eich ardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035?
Yn ystod haf 2022 fe wnaethom alw ar drigolion y sir - o Ben Llŷn i Benllyn ac o Aberdyfi i Abergwyngregyn – i lenwi holiadur 'Ardal Ni 2035' er mwyn canfod atebion i’r cwestiynau allweddol yma.
Bwriad prosiect Ardal Ni 2035 oedd cynnal sgwrs a thrafod gyda chymunedau lleol er mwyn adnabod beth sy’n bwysig i drigolion a sut yr hoffent weld eu hardal yn datblygu dros y 10 -15 mlynedd nesaf.
Ar ddiwedd y gwaith ymgysylltu bydd 13 cynllun adfywio unigryw yn cael eu datblygu a fydd yn adlewyrchu dyheadau cymunedau lleol Gwynedd.
Cliciwch ar eich ardal leol i weld canlyniadau yr ymgynghoriad: