Crwner

Mae crwneriaid yn cofnodi ac yn ymchwilio i farwolaethau sydyn, annisgwyl a threisgar. Yr Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Gorllewin) ar gyfer Gwynedd a Môn yw Ms Kate Robertson LL.B (Anrh) sy'n gyfreithiwr.

Nid yw pob marwolaeth yn cael eu hadrodd i'r Crwner; ym mwyafrif yr achosion, gall Feddyg Teulu neu feddyg ysbyty roddi Tystysgrif Feddygol o achos y farwolaeth fel y gellir ei chofrestru gan y cofrestrydd.

 

Dylid adrodd am farwolaeth wrth y Crwner pan fydd meddyg yn gwybod neu ag achos rhesymol dros amau bod honno’n farwolaeth:

  • o ganlyniad i wenwyn, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i drawma, trais neu anaf corfforol, p'un ai a achoswyd yn fwriadol ai peidio;

  • sy’n gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn feddygol neu debyg ei natur;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i hunan-niwed, (gan gynnwys methiant gan y sawl a fu farw i gadw ei fywyd ei hun) boed yn fwriadol neu fel arall;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod, neu y gellir ei briodoli i, gyrfa waith y sawl a fu farw;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyn, neu afiechyd hysbysadwy;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant o ran gofal gan berson arall;

  • a oedd fel arall yn annaturiol.

Dylai'r Crwner hefyd gael gwybod os:

  • digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu fel arall yng ngharchar y wladwriaeth - o ba bynnag achos;

  • na fu ymarferydd meddygol i weld yr ymadawedig ar unrhyw adeg yn y 14 diwrnod cyn y farwolaeth a bod dim ymarferydd meddygol ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth;

  • na ŵyr neb pwy yw’r ymadawedig;

  • nad yw’n hysbys beth oedd achos y farwolaeth.

Pan fydd marwolaeth wedi ei hadrodd i’r Crwner bydd yn rhaid i’r cofrestrydd aros i’r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth. Gall yr ymholiadau hyn gymryd amser, felly cymeradwyir cysylltu â swyddfa’r Crwner cyn gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer angladd.

Bydd y crwner yn ceisio sefydlu achos meddygol y farwolaeth. Os bydd amheuaeth ynglŷn â’r achos yn dilyn post mortem, fe gynhelir cwest. Os bydd yr archwiliad yn dangos bod y farwolaeth yn un naturiol, mae’n bosib na fydd angen cwest ac fe wnaiff y crwner anfon ffurflen at y cofrestrydd marwolaethau fel y gall perthnasau gofrestru’r farwolaeth a fel y gall y cofrestrydd roi tystysgrif claddedigaeth.

 

Cwestau

Cynhelir cwest i gofnodi:

  • Pwy oedd yr ymadawedig

  • Pryd, ble a sut y digwyddodd achos meddygol y farwolaeth

Pan ddeuir i gasgliad, bydd y Crwner yn cofnodi’r manylion sydd eu hangen er mwyn cofrestru’r farwolaeth.

Nid yw cwest yn penderfynu ynglŷn ag atebolrwydd sifil neu atebolrwydd troseddol ar ran rhywun a enwir.


Cwestau ar y gweill
 

  

Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 31/10/2024:

Timothy David Martin – 51 oed, marw Bangor ar 25/06/2024

Robert Franklyn Gordon – 78 oed, marw Harlech ar 18/05/2024

 

04/11/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jel, Caernarfon LL55 1SH

Agoriad Ffurfiol - 09:30:

Darren Francis Guy – 57 oed, marw Penrhyndeudraeth ar 13/10/2024

Eunice Jones-Parry – 98 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 07/10/2024

James Wye – 59 oed, marw Aberdyfi ar 15/10/2024

Kenneth Henry Williams – 76 oed, marw Bae Trearddur ar 12/10/2024

David Munro – 74 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 10/10/2024

Adrian Griffin – 81 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 18/10/2024

Charles Williams – 71 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 19/10/2024

Paul Lloyd Evans – 37 oed, marw Porthmadog ar 23/08/2024

Dennis Lloyd Wright - 79 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 18/10/2024

Elizabeth Madge Parry – 60 oed, marw Llanfaes ar 20/07/2024

Gwilym Leonard Pritchard – 81 oed, marw Ysbyty Cefni ar 18/10/2024

 

11/11/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jel, Caernarfon LL55 1SH

Cwest Llawn 

09:30 – Richard Arthur Rowlands – 73 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 03/07/2023

12.30 – Peter Francis Darwood – 82 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 31/05/2024

15:00 – Janet Lynne Savage – 54 oed, marw Antalya, Twrci ar 06/08/2023

 

12/11/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jel, Caernarfon LL55 1SH

Cwest Llawn

09:30 – Pamela Ann Edwards – 77 oed, marw Caergybi ar 04/05/2024

 

27/11/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jel, Caernarfon LL55 1SH

Cwest Llawn

09:30 – Neil Vaughan –  66 oed, marw A4212 Capel Celyn, Bala ar 06/04/2024

Ail-ddechrau Cwest

10:30 - Steven Michael Gahan – 52 oed, marw Bangor ar 03/06/2024

 

 

Cofrestru Marwolaethau

Os penderfyna’r Crwner bod angen cynnal cwest, ni chaiff y farwolaeth ei chofrestru nes bod y cwest wedi ei gwblhau, fodd bynnag rhoddir Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro gan y Crwner hyd nes y gellir cofrestru’n llawn.

Wedi’r cwest, bydd y Crwner yn cofrestru'r farwolaeth gyda chofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Dyma lle mae swyddfeydd cofrestru Gogledd Cymru (Gorllewin):


Swyddfa'r Crwner

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Crwner yn defnyddio'r manylion isod:

Cyfeiriad: Swyddfa Crwner Ei Mawrhydi, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

E-bost: crwner@gwynedd.llyw.cymru  

Rhif ffôn: 01286 672 804