Telerau ac amodau - Tocyn Parcio Tymhorol (Morwrol)
- Mae’r tocyn parcio tymhorol yn ddilys ar gyfer y lleoliad a ddewiswyd yn unig – ni all tocyn gael ei defnyddio mewn unrhyw faes parcio neu draeth arall o fewn y sir.
- Nid yw tocyn parcio tymhorol yn sicrhau bod gofod parcio neilltuedig ar eich cyfer.
- Rhaid arddangos y tocyn parcio tymhorol mewn man amlwg a gweladwy tu mewn i ffenestr flaen y cerbyd. Bydd Swyddogion y Cyngor yn goruchwylio’r maes parcio a’r traeth yn rheolaidd.
- Nid yw’r tocyn parcio yn drosglwyddadwy – mae’r tocyn ond i’w ddefnyddio ar y cerbyd mae wedi’i neilltuo ar ei gyfer.
- Bydd manylion unrhyw gerbyd sy’n arddangos tocyn ffug yn cael eu cyfeirio at yr Heddlu.
- Bydd cost am adnewyddu tocyn colledig / ddifrodedig.
- Mae cyfrifoldeb am ddiogelwch y cerbyd ac unrhyw eiddo a adawir ynddo yn disgyn ar berchennog y cerbyd.
- Mae’r tocyn parcio tymhorol yn cael ei gyhoeddi ar sail y rheolau a bennwyd gan Gyngor Gwynedd, a gellir ei diddymu ar unrhyw adeg, a heb unrhyw rybudd, os na chydymffurfir a’r rheolau.
- Mae Cyngor Gwynedd gyda’r hawl i wrthod adnewyddu tocyn parcio tymhorol os yw'r deilydd yn gyson wedi torri'r rheolau a'r amodau perthnasol, neu yn fwriadol wedi atal neu rwystro swyddogion y Cyngor rhag cyflawni eu dyletswyddau.
- Morfa Bychan yn unig – bydd yn orfodol i’r rhai sy’n gymwys i gael gostyngiad, h.y. y rhai sydd yn byw yn barhaol o fewn ffin Cyngor Tref Porthmadog neu drigolion sy’n byw yn barhaol yng Ngwynedd, i ddangos prawf cyfeiriad wrth gasglu’r tocyn parcio tymhorol (e.e. bil cyfleustodau neu drwydded yrru). Ni fydd tocynnau parcio yn cael eu cyflwyno heb brawf cyfeiriad.
- Dim parcio dros nos.
- O ddiwedd mis Mehefin ymlaen bydd giât wrth y fynedfa yn cael ei chloi rhwng 20:00 a 09:00 y bore canlynol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael y traeth gyda’ch cerbyd cyn i’r giât gael ei chloi.
- Mae cyfyngiad cyflymder o 10 MYA ar y traeth. Mae posibilrwydd y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn erlyn unrhyw yrrwr sy’n cael ei weld yn goryrru neu yn gyrru’n ddiofal.
- Byddwch yn wyliadwrus o’r llanw wrth barcio ar y traeth. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr arwyddion ar y safle.
Eich Manylion Personol
Defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen i brosesu eich cais yn unig. Ni fydd yn cael ei rhannu tu allan i’r Cyngor. Mwy o wybodaeth a manylion y Swyddog Diogelu Data Cyngor Gwynedd