Telerau ac amodau angori llestr
Rheoliadau Cyffredinol i Ddefnyddwyr Harbwr
Dyrannir angorfeydd yn ddarostyngedig i'r termau a rheolau canlynol:
- Fe fydd yn rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio ac is ddeddfau’r harbwr ac unrhyw reol ychwanegol a fydd wedi ei gyflwyno gan yr Awdurdod Harbwr. Gallir archwilio’r is ddeddfau drwy drefniant gyda’r Harbwr Feistr. Fe fydd yn ofynnol i’r ymgeisydd ar bob achos, ac mewn pob ystyriaeth, gydymffurfio a rheoliadau diogelwch a fyddai yn ymwneud ag y math o gwch ac angorir oddi fewn awdurdodaeth yr harbwr ar hyd y cyfnod.
-
Fe fydd yr ymgeisydd yn derbyn a chadarnhau bod yr angorfa a fu wedi ei gynnig ar gyfer y cwch sydd wedi ei enwi yn cais am angorfa yn unig.
-
Ni chaiff yr ymgeisydd, heb ganiatâd ysgrifenedig yr Awdurdod Harbwr, drosglwyddo, neu isosod yr angorfa.
-
Fe fydd yn ofynnol i’r ymgeisydd dderbyn cyfrifoldeb llwyr am ddiogelu’r cwch i offer yr angorfa ar bob achos. Mae’r ymgeisydd yn hollol gyfrifol am ddarparu offer addas a priodol a fyddai yn diogelu’r cwch i’r codwr angor/stanc. Fe fydd yn ofynnol i’r perchennog hysbysu’r Awdurdod Harbwr yn ysgrifenedig pe ddigwyddi’r unrhyw ddifrod i eiddo'r Awdurdod Harbwr, ac ymhellach, i ddigolledu’r Awdurdod Harbwr oddi wrth, ac yn erbyn, unrhyw gais am iawndal, neu gostau eraill a gyfodir.
-
Mae yn ofynnol i’r ymgeisydd hysbysu’r Awdurdod Harbwr yn ysgrifenedig oddi fewn tri deg diwrnod pe bydd yn penderfynu gadael yr angorfa yn barhaol yn ystod y tymor.
-
Pe bydd y wybodaeth anghywir yn cael ei gyflwyno yn y cais am angorfa fe fydd y Cyngor y addasu y ffi ac yn hawlio unrhyw daliad sy’n ddyledus gan yr ymgeisydd.
-
Bydd y Cyngor yn ystyried ad-dalu ffioedd angorfeydd pan fydd y cytundeb angori yn cael ei ddiddymu gan y perchennog / cwsmer am resymau na ellid eu rhagweld ar yr adeg pan wnaed y cytundeb, ac sydd y tu hwnt i reolaeth y perchennog / cwsmer. Bydd yna ddim ad daliad am angorfeydd sydd yn cael eu diddymu ar ôl y 31 Awst.
-
Cyfrifir ad-daliadau gan ddefnyddio rheol 18 mis, pan fo’r tal blynyddol yn cael ei rannu i 18 rhan gyda phob mis calendr o fis Ebrill dan fis Medi, yn gynwysedig, yn werth 2/18, a phob mis calendr o fis Hydref tan fis Mawrth, yn gynwysedig, yn werth 1/18.
-
Ni fydd yr Awdurdod Harbwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd pa beth bynnag, am farwolaeth, neu anaf i unrhyw berson, neu ddifrod i eiddo'r ymgeisydd, ei wahoddion, asiant, gyflogwr, neu unrhyw berson arall oni bai pe byddai'r achos yn arddangos esgeulustod ar ran yr Awdurdod Harbwr, eu gweision, neu asiant. Fe fydd yr ymgeisydd yn digolledu, a chadw’r Awdurdod Harbwr yn erbyn unrhyw gais, cholled, neu hawlied yn codi oddi yno.
-
Fe fydd rhaid i’r ymgeisydd fod gydag yswiriant ‘Trydydd Parti’ gyda chwmni yswiriant bri i’r isafswm o £3,000,000, ac fe fydd yn rhaid arlwyo manylion gyda chais yr ymgeisydd.