Telerau ac amodau lansio cwch pwer a jet-sgi
Rheolau llestr / bad pŵer ym mhorthladdoedd ac ar arfordir Gwynedd
1. Mae’n hanfodol fod pob Cwch Pŵer neu Fad Dŵr Personol sydd yn defnyddio, neu groesi rhan o’r arfordir sydd mewn eiddo, neu reolaeth Cyngor Gwynedd, wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd. Mae angen i lestrau llai na 10hp gofrestru.
1.1 Mae ffi cofrestru yn daladwy, ac mae’n rhaid cadarnhau yswiriant dilys trydydd parti, Isafswm £3 miliwn.
1.2 Mae’n orfodol fod yr Hawlen Cofrestru yn cael eu harddangos mewn safle amlwg a gweladwy ar ochr port a starbord y llestr uwchben y llinell dŵr. Ni chaniateir unrhyw rifau cofrestru eraill. Ni chaniateir lansio pe na fydd yr hawlen yn cael ei arddangos.
1.3 Ni chaiff defnyddwyr Cychod Pŵer neu Badau Dŵr awdurdod i lansio ar unrhyw draeth neu harbwr pe na fyddai’r perchennog wedi cofrestru’r llestr gyda Chyngor Gwynedd, neu os yw ei gofrestriad wedi’i ddiddymu.
1.4 Rhaid talu ffi lansio ar bob safle lansio.
2. Gofynion Oed:
2.1 Rhaid bod o leiaf yn 18 oed cyn defnyddio Cwch Pŵer neu Fad Dŵr Personol heb gymhwyster.
2.2 Rhaid bod o leiaf yn 15 i 17 oed gyda Thystysgrif Cymhwysedd G.H.F. ar gyfer Badau Dŵr neu dystysgrif Cwch Pŵer Lefel Dau, ar gyfer mordwyo Bad Dŵr Personol neu Gwch Pŵer heb oruchwyliaeth. Dylai’r tystysgrifau fod ar gael i’w harchwilio ar unrhyw adeg.
2.3 Rhaid bod yn 12 i 14 oed, gyda thystysgrif cymhwysedd G.H.F. ar gyfer Badau Dŵr neu dystysgrif Gwch Pŵer Lefel Dau cyn y caniateir mordwyo o dan arolygaeth uniongyrchol oedolyn. Diffiniad ‘Goruchwyliaeth’ yw mae’n hanfodol y bod yna oedolyn fel a fydd wedi ei ddifynio yn 2.1 uchod, ar fwrdd y llestr drwy’r adeg.
2.4 Dan 12 oed – ddim i lywio Cwch Pŵer neu Fad Dŵr Personol ar unrhyw adeg.
3. Cyfyngiadau Cyflymdra:
3.1 Cyflymdra di-drochion o fewn 50 metr o fad dŵr arall, cwch, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr, offer pysgota, neu’r lan.
3.2 Rhaid cydymffurfio â chyfyngiadau cyflymdra Cyngor Gwynedd mewn ardaloedd dynodedig. Lle nad oes cyfyngiad cyflymdra penodedig, y cyflymdra uchaf yw4 MILLTIR FOR, oddi fewn 100m i’r draethlin (o fan is y llanw) ac o fewn unrhyw harbwr.
3.3 Mae yn anghyfreithlon mordwyo llestr/ bad pŵer mewn ardaloedd gwaharddedig.
3.4 Gwaherddir badau a weithredir gan bŵer rhag mynd ar unrhyw barth diogelwch traeth oni bai y defnyddir ardal lansio penodol ar gyflymder cyfyngedig.
4. Ni chaniateir mordwyo dan ddylanwad diod alcohol neu gyffuriau.
5. Mae yn drosedd i aflonyddu bywyd gwyllt. Ni chaniateir aflonyddu dolffiniaid, llamidyddion, siarcod neu unrhyw fath o fywyd gwyllt.
6. Daw perchnogion a cherbydau a chychod i’r man lansio ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Rhaid i berchnogion sicrhau fod yr ardal lansio yn addas ar gyfer y gwch ac yn addas ar gyfer y cerbyd cyn lansio. Cyfrifoldeb y perchennog yw sicrhau fod y tir ar amgylchiadau yn addas ar gyfer lansio neu adfer y gwch. Mae’n rhaid glynu at gyfarwyddiadau Swyddogion y Cyngor.
7. Rhaid i gerbydau gadw at y cyfyngiad cyflymdra o 10MYA ar y traeth.
8. Dylai ôl-gerbydau ond cael eu parcio yn y safle dynodedig. Cyfrifoldeb y perchennog yw sicrhau fod yr ôl-gerbyd ag unrhyw gyfarpar wedi eu parcio’n ddiogel.
9. Anogir defnyddio badau pŵer mewn ffordd gyfrifol bob amser – byddwch yn ystyriol o eraill. Mae’n rhaid cydymffurfio â ‘Rheoliadau Rhyngwladol Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr’ bob amser.
10. Dylai llywiwr y llestr sicrhau fod y ‘Killcord’ wedi ei gysylltu yn ddiogel i’r peiriant, ac mae’n orfodol dilyn argymhellion y cynhyrchwyr. Ni ddylai unrhyw lestr fod yn mordwyo os na fydd y cortyn wedi ei gysylltu yn gywir. Mae’n orfodol fod yr adlyn ‘Killcord’ yn cael ei arddangos ar y llestr drwy’r amser.
11. Ni chaniateir sgïo ar y dŵr heb arsyllwr annibynnol. Ni chaniateir tynnu neu lusgo tegan gwynt oddi fewn i unrhyw harbwr, parth gwahardd cychod neu o fewn 100m o’r draethlin. Bydd lleiafrif o ddau unigolyn ar fwrdd unrhyw lestr fydd yn tynnu neu lusgo bob amser.
12. Caiff manylion unrhyw lestr sy’n arddangos trwyddedau ffug eu cyfeirio at yr Heddlu.
Bydd tocyn cofrestu'r perchennog / defnyddiwr yn cael ei ddiddymu yn syth pe na fydd y gweithredwr yn cydymffurfio â'r rheolau uchod.