Lonydd Glas
Chwilio am le diogel, di-draffig i gerdded neu feicio? Eisiau awyr iach neu ddianc o sŵn y byd o'ch cwmpas? Pam nad ewch am dro ar hyd eich Lonydd Glas?
Erbyn heddiw yng Ngwynedd ceir dros 50.5 cilomedr (31½ milltir) o lwybrau pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio, lle cewch ymlacio ymysg natur ac anghofio am broblemau'r byd tu allan. Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cydweithio i ddarparu'r daflen hon, ble cewch wybodaeth am y pump lôn las sydd i'w cael yng Ngwynedd.
Teithiau unigryw yw'r rhain a sefydlwyd ar hyd hen reilffyrdd sydd erbyn heddiw yn creu rhwydwaith eang. Lleolir y rhwydwaith yma yng Ngwynedd, sydd yn ardal unigryw o ran ei thirlun, ei diwylliant a'i phobl, ac yn gryf yn ei Chymraeg.
Yn ogystal â cheisio gwella eich mwynhad o'r Lonydd Glas, rydym hefyd yn ystyried bod gwarchod y bywyd gwyllt, sydd i'w ganfod ar naill ochr i'r llwybrau, yn agwedd bwysig o'n gwaith rheoli. Mae'r llwybrau wedi eu harwyddo ac yn hawdd i'w defnyddio, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau megis ffôn a siopau i'w canfod bron ym mhob pentref. Pa ffordd well i ymweld â gwyrddni cefn gwlad Gwynedd nac i grwydro'r Lonydd Glas?
Mwy o wybodaeth am seiclo yn Eryri
Byddai rhai yn dweud mai Lôn Eifion yw'r daith fwyaf adnabyddus o'r bump ar y rhwydwaith. Yn sicr, mae'n ddigon hawdd gweld pam fod y llwybr yn boblogaidd, gyda'i lecynnau tawel cysgodol, a'i olygfeydd godidog. Pam na ewch i weld y panorama o'ch cwmpas o Ben Llŷn, Bae Caernarfon, Ynys Môn ac Eryri?
Dilynwch Lôn Eifion trwy goridorau gwyrdd o goed a phlanhigion cynhenid sy'n ymestyn am 20 cilomedr (12 milltir) rhwng tref brysur Caernarfon a phentref gwledig Bryncir i'r de. Mae'r llwybr yn weddol wastad, gyda chyfuniad o wyneb tarmac (Llanwnda-Graianog) a llwch cywasgedig.
Mae Lôn Eifion yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Map Lôn Eifion
Wrth ymweld â Lôn Las Menai, cewch fwynhau golygfeydd o Ynys Môn, yr ynys werdd y tu draw i ddyfroedd bywiog Afon Menai. Ceir yma 6.5 cilomedr (4 milltir) o lwybr gwastad rhwng Caernarfon a'r Felinheli, a agorwyd yng ngwanwyn 1995.
Mae'r llwybr llwch cywasgedig yn arwain o dref gaerog Caernarfon gyda'i gastell hynafol, drwy dir amaethyddol ar hyd arfordir gosgeiddig y Fenai i gyrion y Felinheli. Drwy'r pentref, mae'r daith yn dilyn Ffordd Glan y Môr hyd at y Stryd Fawr, cyn ymuno yn ôl â'r llwybr ger y cae chwarae. Mae Lôn Las Menai yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Map Lôn Las Menai
Dyffryn yr Afon Cegin yw un o fannau tawelaf yr ardal, lle'n aml nad oes dim i'w glywed ond sŵn yr afon. Gelwir y rhan hon o'r llwybr sy'n rhedeg drwy'r dyffryn cysgodol rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn yn Lôn Bach. Adeiladwyd Lôn Bach yn yr 1980au ar gyn reilffordd gul Stâd y Penrhyn, a sefydlwyd i gludo llechi o chwarel Bethesda i'w hallforio o Borth Penrhyn.
Map Lôn Las Ogwen
Mae Lôn Las Ogwen yn ymestyn o Borth Penrhyn ar gyrion dinas Bangor, am Fethesda ac ymlaen at gyrion ardal Llyn Ogwen. Yn dilyn gwaith datblygu, mae bellach yn bosib teithio ar hyd yr hen dwnnel rheilffordd (Tynal Tywyll) rhwng Tregarth a Bethesda heb orfod dilyn y brif ffordd.
O bentref poblogaidd Llanberis gallwch ddilyn llwybr troed/beic Lôn Las Peris am 1.5 cilomedr (1 milltir) ar hyd glan cysgodol Llyn Padarn. Ar ôl y twnnel, ac ar ben y daith, mae'r llwybr yn cysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus lleol, o ble gallwch feicio neu gerdded heibio pentref Brynrefail, Cwm y Glo a Llanrug, ac os ydych yn dymuno, i lawr dyffryn yr Afon Seiont i gyfeiriad tref brysur Caernarfon.
Neu, beth am loetran ychydig a chymryd yr amser i werthfawrogi cefn gwlad hanesyddol ardal y llechen trwy ddilyn ffyrdd gwledig ac ymweld â Deiniolen, Dinorwig neu Penisarwaun, neu feicio i fyny'r dyffryn godidog i gyfeiriad Nant Peris?
Map Lôn Las Peris
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni