3AdobeStock_370748711
Ysbyty'r Chwarel2
      

Parc Gwledig Padarn, Llanberis

Parc 800 acer gyda golygfeydd trawiadol ar draws Llyn Padarn, Castell Dolbadarn ac Eryri. 

 

Lleoliad 

Ysbyty'r Chwarel
Llanberis
Caernarfon
Gwynedd
LL55 4TY  

Ffôn: (01286) 870892

Oriau agor

Mae'r parc ar agor yn ddyddiol drwy'r flwyddyn.

 

Amgueddfa Ysbyty'r Chwarel

Amgueddfa sy'n adlewyrchu bywyd yn yr ysbyty yn y 19 Ganrif. Cyfle i weld offer meddygol gwreiddiol, ward, ystafell llawdriniaeth, peiriant pelydr X gwreiddiol, amryw o declynnau arswydus a marwdy!

Ar agor yn ystod Gwyliau Pasg ac Yr Haf. 

Y maes parcio agosaf ar gyfer Ysbyty'r Chwarel ydi Maes Parcio Gilfach Ddu sydd tua 10 munud o waith cerdded i ffwrdd.  Y ffi parcio ydi £5.00 a gellir ei dalu gan ddefnyddio'r peiriannau talu ac arddangos ar y safle neu trwy PayByPhone.  


Pethau i'w gwneud

 

 

Nofio:

  • Gwiriwch y dyfnder a'r gwely dŵr drwy gerdded i mewn yn ofalus.
  • Gall ardaloedd o wely'r llyn ddisgyn ymaith yn sydyn.
  • Ewch i mewn i'r dŵr yn araf er mwyn dod i arfer.
  • Peidiwch â neidio neu blymio i mewn, nid ydych yn gwybod pa mor ddwfn yr ydyw ac mae gwely'r llyn yn cynnwys llechi miniog. Gallech hefyd gael sioc gan yr oerni.
  • Dewiswch lwybr nofio ar hyd y draethlin fel y gallwch fynd allan yn hawdd os ydych angen
  • Byddwch yn Weladwy! Gwisgwch gap nofio llachar a llusgwch fflôt llachar.
  • Gwisgwch siwt wlyb er mwyn eich cadw'n gynhesach ac yn fwy nofiadwy.
  • Peidiwch byth â mynd i nofio ar eich pen eich hun. Sicrhewch gefnogaeth - mae canŵ, caiac neu fwrdd padlo yn gweithio'n dda, sy'n ddelfrydol, yn arddangos fflag Alpha gwyn a glas, yn rhybuddio bod plymwyr neu nofwyr yn y dŵr
  • Gall y llyn fod yn oer, hyd yn oed ar ddiwrnod poeth o haf. Gall dod i gyswllt â dŵr oer arwain yn gyflym at hypothermia, a gall y symptomau cynnar fel cael trafferth symud eich dwylo, wneud nofio yn anoddach na'r arfer yn sydyn.
  • Peidiwch ag aros i mewn yn rhy hir.
  • Sicrhewch fod gennych ddigon o haenau o ddillad, het a diod gynnes yn barod pan fyddwch yn dod o'r dŵr, hyd yn oed yn yr haf.
  • Nofiwch pan fo'r tywydd yn addas yn unig - cofiwch fod pethau'n gallu newid yn sydyn

  • Cychod rhwyfo, canŵod, caiacau a byrddau padlo:

    • Sicrhewch fod eich siaced achub neu'ch cymorth hynofedd wedi'i gymeradwyo gan CE.
    • Gwisgwch eich siaced achub pan fyddwch yn ymyl y dŵr neu ar y dŵr.
    • Ewch i ganŵio, caiacio neu fwrdd padlo gyda rhywun arall ac arhoswch yn agos at y lan.
    • Gall cyfeiriad y gwynt newid yn sydyn a chryfhau'n gyflym, sy'n gwneud padlo'n galetach ac yn anoddach i ddychwelyd i'ch safle lansio. Gallai achosi i chi ddrifftio i ochr arall y llyn!
    • Gwyliwch am nofwyr dŵr agored! Gallant fod yn anodd eu gweld.
    • Cadwch cyn belled â phosib oddi wrth nofwyr a'u cychod cymorth.
    • Ni chaniateir unrhyw gychod pŵer ar y llyn

    • Pan fyddwch yn dod allan o’r llyn, dylech bob amser:

      GWIRIO - GLANHAU - SYCHU

      • GWIRIWCH eich offer a'ch dillad am organebau byw. Rhowch sylw arbennig i ardaloedd llaith neu anodd eu harchwilio.

      • GLANHEWCH a golchwch yr holl offer, esgidiau, dillad nofio a dillad yn drylwyr. Os fyddwch yn darganfod unrhyw organebau, gadewch hwy wrth ymyl y dŵr lle daethoch ar eu traws neu ar arwyneb caled i farw.

      • SYCHWCH eich offer a'ch dillad i gyd. Gall ambell rywogaeth fyw am sawl diwrnod mewn cyflyrau llaith. 

       

      Ansawdd Dŵr - Mae Llyn Padarn yn cael ei wirio’n rheolaidd gan Gyfoeth Naturiol Cymru

      Mewn argyfwng cysylltwch â 999 

Mae trefnwyr gweithgareddau grŵp angen caniatâd i gynnal gweithgareddau o gwmpas ac ar Lyn Padarn a'i gyffiniau.

Mi fydd ffi yn dyledus i Parc Padarn am y drwydded sydd ei angen i gynnal gweithgareddau grŵp.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â parcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru

  • Er mwyn Pysgota ar Lyn Padarn mae angen sicrhau bod dau beth yn ei le:
  • Fe fydd angen trwydded pysgota â gwialen ddilys arnoch chi os ydych yn 13 oed neu’n hŷn.
  • Mae’n rhaid i chi gario eich trwydded pysgota â gwialen bob
  • tro rydych yn pysgota neu gallwch wynebu erlyniad a chael eich dirwyo hyd at £2,500.
    Manylion sut i brynu trwydded i’w gael gan Gyfoeth Naturiol Cymru
  • Mae angen caniatâd deiliaid hawl pysgota’r Llyn sef y Gymdeithas Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni drwy brynu tocyn neu aelodaeth. 
  • Mwy o wybodaeth.

I gynnal unrhyw ddigwyddiad ym Mharc Padarn mae angen trwydded.

I wneud cais am drwydded ewch i: Gwybodaeth ar gyfer trefnwyr digwyddiadau

Cysylltu â ni: 

Ffôn: (01286) 870892

E-bostparcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru

Gwefan: Ymweld ag Eryri