Ar draws Gwynedd mae deg hwb cymunedol wedi’i sefydlu a phob un yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Un o’r hybiau cymunedol yw Porthi Dre sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon.
Mae Porthi Dre yn cynnig sawl cefnogaeth o fewn wythnos arferol ar gyfer pobl hŷn yr ardal. Ar ddyddiau Llun mae Clwb Seiont sy’n cynnig amryw o weithgareddau a chinio poeth, ar elfen bwysicaf yw cyfle i gymdeithasu. Mae cinio poeth am ddim hefyd ar gael pob Dydd Mawrth a Iau sy’n bryd cynnes maethlon a chyfle i fwynhau sgwrs â phobl eraill sy’n mynychu.
Mae clybiau wythnosol eraill yr hwb yn cynnwys Caban y Cofis sy’n debyg i Men’s Shed, a phob dydd Mercher mae Clwb Pwytho Dre a hefyd y cyfle am baned a chacen. Mae amryw o fudiadau hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio yn y lleoliad.