Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth am ddementia ar draws Gwynedd. Trwy godi ymwybyddiaeth am ddementia, rydym yn gwella cynhwysiant cymdeithasol ar gyfer y rhai sy'n byw gyda dementia yn ein cymunedau. Paratowyd y sesiynau gan Gymdeithas Alzheimer a’u cyflwyno gan aelodau staff Dementia Actif Gwynedd. Mae’r sesiynau’n herio’r stigma a’r mythau sy’n ymwneud â dementia ac yn codi ymwybyddiaeth o’r newidiadau bychain y gallwn ni i gyd eu gwneud yn ein bywydau bob dydd i gefnogi’r rhai o’n cwmpas sy’n byw gyda dementia.
Dros y blynyddoedd rydym wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith cannoedd o amgylch y sir ac wedi cyflwyno sesiwn i gyfanswm o 1,133 yn 2023 yn unig. Cyflwynwyd sesiynau i amrywiaeth o grwpiau gan gynnwys ffrindiau a theuluoedd y rhai sy’n byw gydadementia, cartref gofal a’u staff, grwpiau cymunedol, ac ysgolion.
Gan weithio gyda’r adran TG fewnol yng Nghyngor Gwynedd rydym hefyd wedi gallu ychwanegu nodwedd newydd i’r sesiwn ffrind dementia sy’n cynnwys profiad Virtualreality (VR) yn dilyn y sesiwn.
Trefnodd Dementia Actif Gwynedd hefyd ymweliad gan y Bws Dementia VR sef hyfforddiant a ddarperir gan training2care. Cynigwyd yr hyfforddiant hwn i ffrindiau,teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr gofal ar draws Gwynedd.