Eich gwybodaeth
Rydym yn dibynnu ar dderbyn a rhannu gwybodaeth er mwyn gallu edrych ar eich anghenion gofal cymdeithasol a thrafod y gwasanaethau sydd ar gael i gwrdd â nhw.
Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif i rai pobl. Mae gennych hawl i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol. Mae’r un fath yn wir am wybodaeth amdanoch a roddwyd gan rywun arall, fel perthynas neu feddyg.
Pa wybodaeth rydych yn ei dal am bobl sy'n derbyn gwasanaeth?
Mae hyn yn dibynnu ar natur y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, ond gall gynnwys manylion fel:
- dyddiad geni, enw, cyfeiriad
- amgylchiadau personol, iechyd, ffordd o fyw, sefyllfa ariannol
- cofnod o gyfarfodydd gyda chi ac eraill, penderfyniadau a wnaed a gwasanaethau a ddarparwyd.
Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser. Dim ond pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal all eu gweld – does neb arall yn cael eu gweld heb i chi roi caniatâd. Cedwir rhai cofnodion am lawer o flynyddoedd; caiff eraill eu dinistrio ar ôl cyfnod o amser.
Alla i weld y wybodaeth rydych yn ei dal amdanaf?
Dan Ddeddf Gwarchod Data 1998 mae gennych hawl i weld pa wybodaeth bersonol rydym yn ei dal amdanoch. Mae rhai amgylchiadau pan na allwn adael i chi weld y wybodaeth neu ran ohoni, er enghraifft:
- os yw’n sôn am rywun arall
- os gallai rhoi’r wybodaeth i chi eich niweidio
- os oes angen y wybodaeth er mwyn datrys neu rwystro trosedd.
Os na allwn roi mynediad i chi at wybodaeth, byddwn fel arfer yn dweud wrthych pam.
Sut ydw i’n cael y wybodaeth?
Cysylltwch â ni gyda’r manylion isod er mwyn gofyn am ffurflen drwy e-bost neu’r post.
Er mwyn gwneud cais, bydd yn rhaid i chi:
- lenwi’r ffurflen gais
- talu ffi o £10
- darparu prawf o’ch hunaniaeth ac unrhyw wybodaeth angenrheidiol arall.
Unwaith y byddwn wedi derbyn hyn, byddwn yn prosesu eich cais o fewn 40 diwrnod calendr.
Cysylltu â ni
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:
- 01766 771000
- gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:
- 01766 771000
- gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Swyddog Gofal Cwsmer, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH