baner wefan Gofal Plant 2 Oed (1)
      

Gofal Plant 2 oed

Gall teuluoedd sydd yn byw o fewn codau post penodol dderbyn hyd at 12.5 awr o Ofal Plant am ddim y tymor ar ôl i'r plentyn gael ei benblwydd yn 2 oed. 

Bydd y 12.5 awr o ofal yn cael ei gynnig dros 5 diwrnod, sef unai 5 sesiwn bore/ prynhawn.

 

Lle mae'r cynllun Gofal Plant 2 oed ar gael?

Mae eich hawl i fanteision ar y Cynllun yn dibynnu ar eich côd post. Rhowch eich côd post yn y blwch isod i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun:

 

Mapiau Ardaloedd a Darpariaethau Gofal Plant 2 oed

Ardaloedd a Mapiau Gofal Plant 2 oed:

Darpariaethau Gofal Plant:

Abermaw 

Abermaw 2 

Cylch Meithrin Y Tonnau

Meithrinfa Barmouth Oasis

Bala 

Canolfan Deulu Y Bala

Dewi 

Hendre 

Hirael a Garth 2 

Meithrinfa Tir Na Nog

Cylch Meithrin Y Garnedd

Caban Y Faenol

Meithrinfa Ffalabalam

Caban Hirael 

Clwb Ein Harglwyddes

Porthmadog Dwyrain 

Cylch Meithrin Porthmadog

Meithrinfa Hen Ysgol

Meithrinfa Enfys Fach

Porthmadog - Tremadog 

Cylch Meithrin Gorlan Fach

Meithrinfa Hen Felin

Seiont 

Meithrinfa Babinogion

Meithrinfa Plant Parciau

Clwb Plant Segontiwm

Teigl 

Meithrinfa O Law i Law

Cylch Meithrin Ffestiniog

Trawsfynydd

Cylch Meithrin Trawsfynydd

 

 

Pryd all plentyn dderbyn gofal plant 2 oed?

Gall plentyn dderbyn gofal plant 2 oed y tymor ysgol ar ôl iddynt troi yn 2 oed. 

Gofal Dechraiu'n Deg
 Dyddiad mae'r plentyn yn troi yn 2 oedDyddiad gall plentyn ddechrau dderbyn
gofal plant 2 oed 
 
 1 Medi i 31 Rhagfyr  Dechrau tymor y gwanwyn
 1 Ionawr i 31 Mawrth  Dechrau tymor yr haf
 1 Ebrill i 31 Awst  Dechrau tymor yr hydref
Gweld dyddiadau tymor ysgol Gwynedd

 

 

Gwneud cais

Mae'n bosib cyflwyno cais ar gyfer Gofal Plant 2 oed unwaith mae eich plentyn yn 12 mis oed.

Gwneud cais am Ofal Plant 2 oed

Wrth gyflwyno'r cais bydd gofyn i chi atodi dogfennau (llun / sgan) fel tystiolaeth o oed a chyfeiriad y plentyn. Bydd angen atodi:

  • tystysgrif geni eich plentyn, a
  • bil Treth Cyngor cyfredol, NEU fil cyfleustodau wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf. 

 

Mewn amgylchiadau eithriadol efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y Gofal Plant 2 Oed:

Bydd lleoedd gofal plant ychwanegol yn cael eu cynnig i ardaloedd ar gyrion yr ardaloedd ehangu gofal plant 2 oed:

  • Seiont 2 LSOA – hefyd codau post Caernarfon a Bontnewydd.
    • Hirael, Hendre and Dewi LSOA’s – hefyd, bydd codau post tref BangorPenrhosgarnedd, a pentref Tal y bont i'w blaenoriaethu.
    • Teigl LSOA - Blaenau Ffestiniog/Llanffestiniog
    • Tremadog /PorthmadogDwyreiniol LSOA’s – hefyd LSOA GorllewinPorthmadog sydd yn cynnwys Borth y Gest a Morfa Bychan.
    • BalaLSOA – Cyrion yr LSOA.
    • BarmouthLSOA – Cyrion yr LSOA.
    • Trawsfynydd LSOA – hefyd pentrefi Penrhyndeudraeth a Minffordd

 

Rhaid i’r teulu fod yn hawlwyr un neu fwy o’r budd-daliadau a restrir isod:-

Credyd Cynhwysol; Budd-dal Tai; Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith; Lwfans Gofalwyr; Lwfans anabledd difrifol; Budd-dal analluogrwydd hirdymor; Lwfans cyflogaeth a chymorth; Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd i weithio neu allu cyfyngedig iweithio.

 

Mwy o wybodaeth / cysylltu â ni: