Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn wasanaeth statudol sy’n cynnig cyngor a chymorth am ddim i BOB teulu pan maent eu hangen fwyaf. Rydym yn fan cyswllt cyntaf i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth am gefnogaeth i deuluoedd.
Gallwn helpu gyda:
- Cyngor a chefnogaeth ar faterion ariannol
- Ymddygiad heriol
- Gofal Plant a help i dalu am ofal plant
- Cefnogaeth i rieni a gofalwyr
- Gweithgareddau a digwyddiadau
- Cefnogaeth ar gyfer dychwelyd i waith ac addysg
- Gwasanaeth cefnogol i deuluoedd
Ceir wybodaeth am yr uchod a llawer mwy ar dudalen Hwb Teuluoedd Gwynedd ar wefan Cyngor Gwynedd. Ac am restr o ofalwyr plant a chlybiau gwyliau ymwelwch â ein gwefan.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol i deuluoedd yn ddyddiol ar ein cyfryngau cymdeithasol ac ein newyddlen yn fisol. Mae hefyd bosib tanysgrifio i’w dderbyn yn uniongyrchol i’ch e-bost.
Rydym yn hapus i ymweld ag unrhyw grwpiau/gweithgareddau/lleoliadau sydd yn chwilio am wybodaeth i gefnogi teuluoedd.
Cysylltwch â ni am wybodaeth pellach –
Newyddlen
Gweld newyddlen Gwybodaeth i Deuluoedd