Gwasanaeth apwyntai
Rhywun rydych yn rhoi hawl gyfreithiol iddo weithredu ar eich rhan pan nad ydych yn gallu rheoli eich materion eich hun ydi apwyntai. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ôl eich materion ariannol.
Bydd apwyntai'n trefnu i dderbyn eich budd-daliadau a thalu eich biliau. Byddant yn agor cyfrif banc yn eich enw ac yn sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau cywir, a byddant yn talu eich biliau byw gan ddefnyddio'ch arian.
Sut mae penodi apwyntai?
Gall perthynas, ffrind neu gynrychiolydd wneud cais yn uniongyrchol i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
All y Cyngor fod yn apwyntai i mi?
Gall y Cyngor fod yn apwyntai i chi:
- os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol fel gofal cartref, gofal dydd neu weithiwr cefnogol
- os ydych yn byw mewn cartref preswyl neu nyrsio ac yn derbyn budd-daliadau.
Sut mae trefnu hyn?
Os ydych am benodi'r Cyngor yn apwyntai, siaradwch â'r person sy'n darparu neu'n trefnu eich gofal a byddant yn eich helpu i drefnu.