Taliadau Uniongyrchol
Os ydych yn gymwys am wasanaethau Gofal yn y Gymuned, gall y cynllun Taliadau Uniongyrchol eich gwneud yn fwy annibynnol.
Yn lle derbyn gwasanaethau gan y Cyngor gallwch ddewis derbyn yr arian a phrynu'r gwasanaeth o rywle arall. Mae hyn yn rhoi mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i chi.
- Chi fydd yn dewis pwy fydd yn darparu'r gofal i gwrdd â'ch anghenion
- Chi fydd yn dewis pryd bydd y gwasanaethau'n cael eu darparu
Bydd yr arian yn cael ei dalu i gyfrif banc pwrpasol ar gyfer talu cyflogau a threuliau perthnasol. Gallwch ddefnyddio'r arian i benderfynu sut i gwrdd â'ch anghenion personol sydd yn eich Cynllun Gofal.
Ni chaiff y Taliad Uniongyrchol ei ystyried yn incwm, felly ni fydd yn effeithio ar eich treth incwm.
Pwy all dderbyn Taliadau Uniongyrchol?
Gallwch fod yn gymwys am Daliadau Uniongyrchol os ydych yn:
- rhiant neu’n unigolyn gyda chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl
- unigolyn anabl â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn
- person ifanc dros 16 oed sy’n anabl
- person rhwng 18-64 oed sy’n derbyn gwasanaethau gofal yn y gymuned
- person dros 16 oed sy’n darparu gofal rheolaidd a sylweddol i oedolyn
- person dros 65 oed sy’n derbyn gwasanaethau gofal yn y gymuned.
Yn ogystal, bydd angen i chi allu rheoli’r cynllun eich hun neu gyda chymorth gan aelod o’r teulu, gofalwr neu berson rydych yn ymddiried ynddo.
Sut mae gwneud cais?
Os ydych yn gymwys i dderbyn Taliadau Uniongyrchol, bydd hynny ar sail asesiad Gofal yn y Gymuned trylwyr. Gallwch wneud cais am yr asesiad gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.
Cysylltwch â'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:
1. Ardal Llŷn
2. Ardal Caernarfon
3. Ardal Bangor
4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd
5. Ardal De Meirionnydd