Cynllun Rhannu Cartref Gwynedd
Beth yw Rhannu Cartref?
Mae Rhannu Cartref yn galluogi dau unigolyn i gyd-fyw er budd y ddau sydd ynghlwm â’r prosiect. Gan amlaf, golygai hyn berson hŷn sydd gyda ystafell sbâr yn eu cartref yn cael eu paru mewn modd diogel gyda rhywun iau a all gynnig cefnogaeth o amgylch y cartref.
Oes gennych chi ystafell sbâr? (Perchennog y tŷ)
Os oes, gallwch chi:
- Roi llety i unigolyn arall sydd angen llety
- Parhau i fyw’n annibynnol
- Gwneud cyfeillgarwch newydd
- Cael tawelwch meddwl i’ch hun ac unigolion sy’n poeni amdanoch.
- Rhannu sgiliau... a dysgu rhai newydd!
Neu
Ydych chi’n chwilio am lety rhad a chymdeithasol? (Rhannwr y cartref)
Ydych chi eisiau:
- Rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned
- Byw mewn cartref cyfforddus a fforddiadwy
- Creu ffrind newydd
- Rhannu eich sgiliau... a dysgu rhai newydd!
Buddion Rhannu Cartref
- Pobl yn gallu aros yn eu cartrefi yn annibynnol yn hirach
- Ffordd fforddiadwy o fyw mewn cyfnod o argyfwng tai gyda prinder tai a chostau rhentu uchel
- Tawelwch meddwl i deulu’r ddwy ochr o wybod eu bod mewn cartref diogel ac yn cael cwmnïaeth.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth neu i gael sgwrs bellach am y cynllun, cysylltwch â ni:
Ymholiad ar-lein: Cynllun Rhannu Cartref
Neu gallwch gysylltu â ni drwy dderfnyddio'r manylion cyswllt isod: