Teithio o le i le
Mae sawl dewis a gwasanaeth ar gael i chi o ran teithio os ydych yn cael trafferth mynd o le i le.
Tocynnau teithio
Mwy o wybodaeth am wahanol docynnau teithio sydd ar gael i’ch helpu:
- Tocynnau teithio – gwnewch gais am bas bws er mwyn cael teithio ar fysiau a threnau lleol
- Bathodyn Glas – cynllun parcio am ddim ar gyfer pobl anabl, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi barcio yn ymyl ble rydych yn mynd
- Cardiau Rheilffordd Cenedlaethol (cyswllt allanol) – gwnewch gais am Gerdyn Rheilffordd i bobl hŷn neu bobl anabl er mwyn arbed arian ar docynnau trên.
Cludiant cymunedol
Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd defnyddio cludiant cyhoeddus oherwydd anabledd neu broblem symud. Gallech gael help i fynd i’r dref i wneud eich siopa’n wythnosol neu fynd at y doctor.
- Barbara Bws Gwynedd: gwasanaeth i’r rheiny na all symud o gadair i gerbyd. Wedi lleoli yn Crccieth, Pwllheli, Bangor.
Ffôn: 07484 223 696
- Cymrod: cymorth cludiant i bobl anabl, hŷn a bregus yn ardal Dwyfor.
Ffôn: 01758 614311
- O Ddrws i Ddrws Nefyn: gwasanaeth i bobl hŷn neu anabl na all gyrraedd cludiant cyhoeddus yn ardal Penrhyn Llŷn.
Ffôn: 01758 721777
- Yr Orsaf, Penygroes: cludiant cymunedol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gwasanaeth ceir gwirfoddol yn gweithredu yn Nyffryn Nantlle. Ffôn: 07529 224989
- Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog: cludiant ar gael ar gyfer siopa ac apwyntiadau iechyd ym Mlaenau Ffestiniog a'r cymunedau cyfagos.
Ffôn: 01766 830082
- Partneriaeth Ogwen, Bethesda: gwasanaeth hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael i drigolion Dyffryn Ogwen ar gyfer teithiau iechyd, siopa neu gymdeithasol.
Ffôn: 01248 602131
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau bws a thrên lleol ac amserlenni yn adran Parcio, ffyrdd a theithio