Teleofal
Beth yw teleofal?
Gwasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion yn eich cartref yw teleofal. Mae’n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac yn gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn y cartref neu alluogi unigolion i barhau i fyw mor annibynnol â phosib.
Cymerwch olwg ar y fideo isod i ddysgu mwy am teleofal, a sut y gallai fod o fudd i chi neu rywun arall yr ydych yn adnabod:
Pa offer sydd ar gael?
Mae ein pecyn teleofal yn cynnwys:
Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Mae gosod pecyn teleofal yn syml ac yn gyflym. Yr unig beth sydd angen yw soced trydan gerllaw, a byddwn yn medru trefnu apwyntiad i un o’n gosodwyr osod offer yn eich cartref.
Unwaith mae’r offer wedi’i osod, bydd modd i chi bwyso’r botwm ar eich pendant i alw am gymorth. Bydd hyn yn cychwyn galwad awtomatig gyda’r ganolfan fonitro Galw Gofal trwy’r uned teleofal yn eich cartref.
Beth yw'r gost?
Mae cost o £5.55 yr wythnos* am becyn teleofal.
Mae’r ffi wythnosol yn cynnwys:
*Noder bod Cyngor Gwynedd yn adolygu ffioedd gofal yn flynyddol, felly gall cost wythnosol teleofal newid yn dilyn adolygiad blynyddol
Sut mae cofrestru?
I gofrestru am wasanaeth teleofal llenwch y ffurflen ar-lein isod:
Cais am wasanaeth Teleofal
Neu ffoniwch: 01286 682842
Os ydych chi'n denant i Gymdeithas Dai (e.e. Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru etc), gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol i drafod ei gwasanaeth teleofal.
Ddim yn siŵr os mai teleofal yw’r ateb i chi?
Rydym yn deall na fydd pecyn teleofal yn cwrdd ag anghenion pob un. O ganlyniad, mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu offer fwy arbenigol mewn rhai amgylchiadau e.e. sensoriaid epilepsi, 'falls detectors' ayyb. I drafod hyn gallwch gysylltu efo eich gweithiwr cymdeithasol, neu gysylltu gyda’ch tîm gwaith cymdeithasol lleol.
Ar y llaw arall, os ydych yn chwilio am gyngor diduedd am offer a gwasanaethau a all wneud eich bywyd bob dydd yn haws, pam na wnewch chi gwblhau hunanasesiad ar-lein Helpu’n Hun?
Mae’r asesiad yn hawdd ac am ddim, ac mae Helpu’n Hun yn galluogi chi gael mynediad at gyngor 24 awr y dydd a 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r broses yn syml, dewiswch y pwnc yr hoffech gael help gydag o, ac yna atebwch ambell gwestiwn syml am eich hun a’ch amgylchedd. Ar sail eich atebion, bydd Helpu'n Hun yn gallu awgrymu:
- Syniadau a chyngor am sut i wneud eich bywyd yn haws.
- Manylion am offer ac adnoddau a allai fod o fudd i chi, a gwybodaeth am lle i ddod o hyd iddynt.
- Cysylltiadau am fwy o gyngor a chymorth os oes angen.
Mwy o wybodaeth am Helpu'n Hun: Hunanasesiad ar-lein.