skip to main content
Fy Nghyfrif
English
Cyngor Gwynedd
Chwilio:
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymweld
Cartref
>
Trigolion
>
Iechyd a gofal cymdeithasol
>
Oedolion
>
Poeni am rhywun
>
Poeni am oedolyn mewn perygl
Poeni am oedolyn mewn perygl
Os ydych yn meddwl bod person mewn perygl o gael eu cam-drin mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.
Ffoniwch:
01766 772577
(Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd)
neu
01248 353551
(rhif y tu allan i oriau arferol):
Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999.
Mathau o gamdriniaeth
cam-drin corfforol:
taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
cam-drin emosiynol:
gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru, codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas, ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith.
cam-drin rhywiol:
gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rywiol anaddas.
esgeulustod:
Peidio darparu bwyd, llety a dillad addas, peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at olaf neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.
camdriniaeth ariannol:
gall oedolion ddioddef o ladrad, cael eu twyllo, pwysau ar gynnwys ewyllys neu bŵer twrnai.
caethwasiaeth fodern
(Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: 08000121700)
Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?
Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?
Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.
Beth fydd yn digwydd wedyn?

Cofiwch
Os ydych yn credu fod trosedd wedi ei chyflawni mae angen hysbysu’r Heddlu.