Hysbysiad Preifatrwydd Coronafeirws ac Olrhain Cysylltiadau
Er mwyn diogelu iechyd a diogelwch cwsmeriaid a staff yn yr adeilad yma rydym yn cofnodi enw a manylion cyswllt pawb sy’n dod i mewn er mwyn cefnogi system Profi, Olrhain a Diogelu Cymru. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi os buoch chi yn yr adeilad tua’r un adeg â rhywun sydd wedi profi’n bositif am goronafeirws. Mae cysylltu â phobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn gam pwysig tuag at atal y lledaeniad.
Er mwyn cynorthwyo i gyfyngu’r feirws, ni fyddwn ond yn rhannu’ch data pan ofynnir amdano gan y rheiny sy’n cyflawni strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Cymru. Defnyddir gwybodaeth i olrhain cysylltiadau'r rhai hynny a fuodd yn y sefydliad ar adeg yr achos positif. Bydd yn rhoi cyfarwyddyd a chanllawiau i’r rhai hynny y gall fod ofyn iddyn nhw hunanynysu.
Y math o ddata a gesglir
Ynghyd â’r dyddiad a’r amser ry’ch chi’n cyrraedd ac yn gadael byddwn yn casglu’r data personol isod os yn berthnasol:
- Eich enw a’ch rhif ffôn cyswllt
- a/neu gyfeiriad cartref a/neu gyfeiriad e-bost
Y sail gyfreithlon dros gasglu’r data hwn
O dan y gyfraith diogelu data, Erthygl 6(1) Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, mae nifer o seiliau cyfreithlon sy’n caniatáu i ni gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol. Yn yr achos hwn y sail gyfreithlon yw tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd.
Fel awdurdod lleol mae gan Gyngor Gwynedd nifer o ddyletswyddau o ran ymatebion amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd i achosion lleol a chlystyrau neu weithredu atal, yn ogystal â chyflenwi’r strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
Y Cyfnod cadw data
Ni fydd eich data personol ond yn cael ei gadw at y dibenion y manylwyd arnyn nhw yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn ac ni fyddwn yn eu cadw am fwy nag 21 diwrnod. Byddwn yn cadw ac yn cael gwared â’ch holl ddata personol yn ddiogel.