Ymchwiliadau llifogydd ffurfiol
Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymchwilio i lifogydd sy'n digwydd o ffynhonellau lleol. Mae ffynonellau llifogydd lleol yn cynnwys dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin (yn cynnwys llynnoedd a phyllau neu fannau eraill gyda dŵr yn llifo i gwrs dŵr cyffredin) a dŵr daear, a lle fo rhyngweithio rhwng y ffynonellau hyn a'r prif afonydd neu'r môr.
Bydd Cyngor Gwynedd yn ymdrechu i gofnodi'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r holl ddigwyddiadau o lifogydd mewnol yn ogystal â digwyddiadau trwch blewyn. Er hynny, mewn rhai amgylchiadau mae digwyddiad llifogydd yn sbarduno ymchwiliad ffurfiol yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd. Mae adroddiad Adran 19 yn cael ei ddosbarthu i randdeiliaid allweddol ac mae ar gael i'r cyhoedd ei weld.
Yn ôl Adran 19 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd:
Wedi iddo ddod yn ymwybodol bod llifogydd yn ei ardal, rhaid i LLFA, ystyried i ba raddau y creda ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol i adnabod:
- pa awdurdodau rheoli perygl sydd â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd perthnasol
- os yw pob un o’r awdurdodau rheoli perygl wedi ymarfer neu yn bwriadu ymarfer y swyddogaethau hynny mewn ymateb i lifogydd
Nid yw'r Ddeddf yn pennu bod yn rhaid i'r LLFA ddatrys y broblem llifogydd. Er hynny, gall canfyddiadau ein hymchwiliad adnabod camau gweithredu a fedrai ostwng y tebygolrwydd o ddigwyddiadau cyffelyb neu adnabod mesurau i leihau'r effeithiau. Swyddogaeth allweddol y drefn adrodd yw ei bod yn adnabod yr ardaloedd lle mae problemau a gall felly gyfarwyddo rhaglenni buddsoddi yn y dyfodol.
Os oes gennych ymholiadau am adrodd am ddigwyddiadau llifogydd neu i ofyn am gopi o adroddiad Adran 19, e-bostiwch: FCRMU@gwynedd.llyw.cymru