Pwyntiau gwefru ceir trydan
Mae’r Cyngor yn datblygu rhwydwaith o dros gant o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar draws Gwynedd.
Mae mannau gwefru yn weithredol yn y lleoliadau canlynol (trwy ddefnydd ap yn unig ar hyn o bryd):
- Intec ar Barc Menai, Bangor, LL57 4FG (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Penllyn, Y Bala, LL23 7YE (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau, LL40 1LH (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli, LL53 5PF (4 peiriant 7kW)
- Maes Parcio Bron y Graig Uchaf, Harlech, LL46 2SR (4 peiriant 7kW)
- Maes Parcio Penmount, Pwllheli, LL53 5HU (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach, Caernarfon, LL55 1DU (2 beiriant 7kW; 1 peiriant 22kW; 1 peiriant 50kW)
Yn ogystal, mae pwyntiau gwefru 50kW hefyd yn weithredol trwy gydweithrediad gyda Thrafnidiaeth Cymru ar safleoedd y Cyngor ym:
- Maes Parcio’r Grîn, Y Bala, LL23 7NG (1 peiriant);
- Maes Parcio ger Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog, LL49 9NU (2 beiriant);
- Maes Parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES (2 beiriant);
- Maes Parcio’r Marian, Dolgellau, LL40 1DL (2 beiriant).
Mae gwaith hefyd yn digwydd i osod rhagor o fannau gwefru mewn lleoliadau yn ardaloedd Aberdyfi, Abermaw, Bangor, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Llanberis, Penygroes, Pwllheli a Thywyn dros y misoedd nesaf.
Mae yna amrywiaeth o fathau pwyntiau gwefru yn cael eu darparu – 7kW (4awr*), 22kW (2 - 3awr*), 50kW (40 munud*), 150kW (15 munud*). Mae manylion am leoliadau pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngwynedd a phrisiau defnyddio’r peiriannau ar gael ar wefan ZapMap (gwefan allanol)
*Amcan amser gwefru i deithio 100 milltir