Teithio Llesol
Mae teithio llesol yn anelu i sicrhau fod cerdded a beicio yn dod yn ddewis arferol ar gyfer teithiau bob dydd, gan helpu i wella iechyd personol, ansawdd aer a gwneud cymunedau yn fwy dymunol i fyw a gweithio ynddynt.
Mae nifer o lwybrau mae’r Cyngor yn eu cynnal ar hyd a lled y sir, yn cynnwys Lonydd Glas a llwybrau cyhoeddus eraill.
Yn ogystal â chynnal y rhwydwaith eang yma o lwybrau cerdded a beicio, rydym yn ceisio cyflwyno llwybrau teithio llesol o’r newydd er mwyn hwyluso mwy o deithio llesol yn ein cymunedau.
Gweld manylion am y llwybrau teithio llesol allai gael eu datblygu (yn ddibynnol ar sicrhau cyllid)
Cynlluniau Teithio Llesol
Mae’r mwyafrif o’r cynlluniau teithio llesol sy’n cael eu datblygu yn ddibynnol ar y Cyngor yn sicrhau cefnogaeth ariannol o gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar, mae gwaith wedi bod yn bwrw ymlaen ar ddatblygu cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, Bangor ac mae gwaith yn parhau ar yr ail wedd gan wella cyfleusterau i feicio a cherdded yn yr ardal yma ar gyrion dinas Bangor.
Mae’r Cyngor hefyd yn arwain gwaith i ddatblygu cynlluniau mewn rhannau eraill o’r sir er mwyn cyflwyno ceisiadau am arian o gronfa Teithio Llesol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae cynlluniau hefyd i wella opsiynau teithio llesol yn ardal Ogwen, gyda gwaith diweddar wedi ei gyflawni ar uwchraddio pontydd cerdded ger Porth Penrhyn ar Lôn Las Ogwen.
Gwelliannau eraill
Mae’r Cyngor hefyd yn datblygu cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau sy’n gwella opsiynau teithio llesol ger ysgolion.
Cwblhawyd gwaith yn ddiweddar ar gynllun i hwyluso cerdded a beicio yn ardal Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwella cyfleusterau cerdded a beicio ger Ysgol Treferthyr, Cricieth ac Ysgol Rhostryfan, a bydd gwaith yn cychwyn yn fuan.