Telerau ac amodau Tocyn Parcio Gwynedd

  1. Gall daliwr Tocyn Parcio Gwynedd barcio am ddim ym meysydd parcio arhosiad Cyngor Gwynedd sydd wedi eu rhestru isod. Noder nad ydi pob maes parcio arhosiad hir Cyngor Gwynedd yn rhan o’r cynllun.
  2. Gall dalwyr Tocyn Parcio Gwynedd sy’n 60+ hefydbarcio am ddim am hyd at 2 awr yn y meysydd parcioarhosiad byr Cyngor Gwynedd a restrir isod.  Darperir cloc disg at ddefnydd pobl 60+ mewn meysydd parcio arhosiad byr. Rhaid dilyn y cyfarwyddiadau ar y disg a’i arddangos gyda’ch tocyn.
  3. Rhaid bod yn 60+ oed ar y diwrnod yr ydych yn prynu y tocyn er mwyn cael parcio yn y meysydd parcio arhosiad byr. Nid yw’n bosib newid eich manylion yn ystod y cyfnod mae’r tocyn yn ddilys.
  4. Bydd y dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen wedi ei argraffu ar eich tocyn. Bydd eich Tocyn yn ddilys rhwng y dyddiadau yma yn unig.
  5. Nid oes llecyn parcio wedi’i warantu. Rhaid parcio oddi fewn y mannau sydd wedi’u marcio.
  6. Rhaid arddangos y tocyn yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd, ac mae’n rhaid medru ei ddarllen o’r tu allan. Mae peidio ag arddangos y tocyn yn drosedd o dan Orchymyn Parcio Oddi Ar y Stryd y Cyngor a gallwch dderbyn Rhybudd Talu Cosb. Mae telerau ac amodau sydd ar fwrdd tariff y meysydd parcio yn berthnasol.
  7. Dim ond ar gyfer cerbyd gydag injan ynddo mae’n bosib prynu tocyn. Ni ellir prynu tocyn ar gyfer parcio trelar / carafán ayyb yn y meysydd parcio.
  8. Ni ddylech lungopïo na newid eich tocyn blynyddol, na gadael i rywun arall wneud hynny. 
  9. Os ydych yn colli Tocyn Parcio Gwynedd bydd cost o £20 am ail-argraffu ac ail-anfon y tocyn.
  10. Bydd e-bost/llythyr atgoffa yn cael ei anfon atoch pan fydd yn amser adnewyddu eich tocyn. Gallwch adnewyddu tocyn 28 diwrnod o flaen llaw.
  11. Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bellter mae gennych saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y telerau ac amodau i ganslo’r gwasanaeth. Bydd rhaid dychwelyd y tocyn parcio cyn y bydd ad-daliad yn cael ei roi.  Ar ôl saith diwrnod gwaith, ni fydd ad-daliad ar gael am y tocyn parcio. 

 

Meysydd parcio dilys:

  • Aberdyfi  Prif faes parcio; Penhelig
  • Abermaw Prif faes parcio;  Pen y Gogledd; Black Patch
  • Abersoch, Y Fach
  • Y Bala  Y Grîn; Stryd Plase (rhan arhosiad hir yn unig)
  • Bangor  Allt Castell; Sgwâr Kyffin; Minafon
  • Beddgelert Colwyn Banc
  • Bethesda Cae Star
  • Blaenau Ffestiniog Diffwys (rhan arhosiad hir yn unig)
  • Borth y Gest Prif faes parcio
  • Caernarfon Safle Shell; Balaclafa; Penllyn (llawr 2 a 3 yn unig); Canolfan Cyfiawnder Troseddol
  • Criccieth  Y Maes; Rhodfa’r Môr; Morannedd; Abereistedd
  • Dolgellau Marian (cefn); Y Marian Mawr (1 Tachwedd i 28 Chwefror yn unig)
  • Y Friog  Arglawdd; Ffordd y Traeth
  • Harlech Bron y Graig Uchaf; Min y Don; Traeth Llandanwg
  • Llanberis Ger y Llyn
  • Porthmadog Iard yr Orsaf; Llyn Bach; Maes Parcio Stryd Lombard
  • Pwllheli Ffordd Caerdydd; Penlan; Tafarn y Black Lion; Penmount; Y Promenâd 

Ar gael i ddeiliaid sy'n 60+ yn unig (hyd at 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr)

  • Abermaw Ffordd Jiwbili
  • Bala  Stryd Plase (rhan arhosiad byr yn unig)
  • Bangor Plasllwyd; Minafon; Canondy; Stryd Jâms; Glanrafon
  • Caernarfon Penllyn (pob llawr); Tan y Bont; Glan y Môr Uchaf; Ffordd y Felin
  • Dolgellau Marian (Mawr) 
  • Harlech Bron y Graig Isaf
  • Porthmadog Heol y Parc
  • Pwllheli  Y Maes; Cei’r Gogledd 

 

Wrth brynu Tocyn Parcio Gwynedd, rydych yn cytuno i weithredu yn unol â'r telerau ac amodau hyn. 

Os am brynu Tocyn Parcio Gwynedd blynyddol, ewch i Tocyn Parcio Gwynedd.

 

Neu, os oes gennych unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r telerau a'r amodau, ffoniwch 01766 771000.