Tocyn 1bws
Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws newydd yn rhoi mynediad i chi i 27 o weithredwyr bysiau a 196 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru, sy’n golygu y gallwch fynd o gwmpas yn hawdd heb boeni am ba fws i’w ddefnyddio.
Gellir defnyddio tocyn 1bws a’r rhwydwaith Sherpa’r Wyddfa.
Lle allwch chi ddefnyddio tocyn 1 bws
Gallwch ddefnyddio tocyn 1bws ar unrhyw wasanaeth fysiau yng Ngogledd Cymru o fewn, o neu i’r siroedd canlynol:
- Ynys Môn
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Wrecsam
Ni ellir defnyddio tocynnau 1bws ar wasanaeth Townlynx 28 (Yr Wyddgrug – y Fflint), T36 Dyffryn Dyfi BwcaBus na gwasanaethau math twristiaeth (megis X10).
Gwasanaethau bws sy’n gweithredu yn Lloegr
Gallwch ond ddefnyddio tocyn 1bws ar y gwasanaethau hynny sy’n dechrau neu’n gorffen yng Nghymru ac yn gweithredu yn uniongyrchol i Gaer, Ellesmere Port neu Tre-Groes (Shropshire).
Gwasanaethau Traws Cymru®
Mae tocynnau 1bws yn ddilys ar y gwasanaethau Traws Cymru® canlynol:
- T2 (Bangor - Aberystwyth)
- T3 (Wrecsam - Barmouth)
- T10 (Corwen - Bangor)
- T12 rhwng Wrecsam a Chirk
- T8 (Corwen - Chester)
- T22 (Porthmadog - Caernarfon)
Sut i brynu tocyn 1bws
I brynu tocyn 1bws, talwch y gyrrwr ar eich bws cyntaf. Derbynnir arian parod neu ‘contactless’ ar bob bws. Gallwch hefyd ddefnyddio Tapio Mlaen / Tapio Ffwrdd a bydd y tâl yn cael ei gapio'n awtomatig.
Prisiau tocynnau 1bws
Math o docyn
|
Math o docyn
|
Pris
|
Oedolyn
|
Tocyn dydd
|
£7.00
|
Plentyn (5 i 16 oed)
|
Tocyn dydd
|
£4.70
|
Consesiwn (deiliad tocyn FyNgherdynTeithio neu docyn consesiwn Lloegr neu’r Alban)
|
Tocyn dydd
|
£4.70
|
Teulu (hyd at 2 oedolyn a hyd at 3 o blant)
|
Tocyn dydd
|
£15.00
|
Oedolyn
|
Tocyn wythnos
|
£30.00
|
Plentyn (5 i 16 oed)
|
Tocyn wythnos
|
£20.50
|
Consesiwn (deiliad tocyn FyNgherdynTeithio neu docyn consesiwn Lloegr neu’r Alban)
|
Tocyn wythnos
|
£20.50
|
Cael gafael ar docyn MyTravelPass
Dilynwch y linc hwn am ragor o wybodaeth.
Sut i ddefnyddio tocyn 1bws
I ddefnyddio tocyn 1bws, dangoswch y cod QR i’r darllenydd ar bob bws dilynol neu defnyddiwch ‘Tap on-Tap off’.
Am ba hyd mae’r tocyn 1bws yn ddilys?
Mae tocyn 1bws yn ddilys am ddiwrnod cyfan, hyd at, ac yn cynnwys y bws olaf. Mae tocyn wythnos 1bws yn ddilys am 7 diwrnod olynol.
Tapio mlaen / tapio ffwrdd
Gallwch ddefnyddio ‘Tap on-Tap off’ i dalu am docyn 1Bws a bydd pris eich taith yn cael ei ‘gapio’ – fel rydych yn teithio o gwmpas ar y diwrnod cyntaf, pan fydd cost eich taith yn cyrraedd pris y tocyn dydd 1Bws, ni chodir mwy o dâl ar y diwrnod hwnnw. Bydd hyn yn parhau am 7 diwrnod olynol tan bydd y cap cyfwerth a pris tocyn wythnos yn cael ei gyrraedd. Bydd pob taith wedi hyn yn cael ei gapio ar sero dros y cyfnod sy’n weddill o’r 7-diwrnod.