Amodau tai preifat ar rent
Y landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo ar rent yn addas i fyw ynddo.
Os ydych yn poeni am yr amodau yn eich llety, dylech gysylltu â’r landlord neu ei asiant yn gyntaf. Os nad yw’r landlord yn trwsio / gwella pethau o fewn amser rhesymol, cysylltwch â Thîm Tai Sector Breifat Cyngor Gwynedd.
Byddwn yn ymchwilio i gwynion ynghylch:
- strwythur yr adeilad
- bath, sinciau a chyfleusterau ymolchi eraill
- gosodiadau gwresogi a dŵr poeth
- gosodiadau trydan a nwy
- materion iechyd a diogelwch
- tamprwydd a llwydni
- gwresogi a chadw gwres aneffeithlon
- diogelwch tân a ffordd o ddianc.
Gallwn hefyd edrych ar arferion rheoli’r landlord.
Diogelwch nwyddau mewn llety rent
Mae rheolau yn bodoli o ran diogelwch nwyddau mewn llety sy'n cael ei rentu fel gweithgaredd busnes. Mae hyn yn berthnasol i dai, fflatiau, fflatiau un ystafell, llety gwyliau, carafannau a chychod.
Mae’r gyfraith yn berthnasol i asiantwyr gosod, arwerthwyr tai a landlordiaid preifat.
- Diogelwch nwyddau mewn llety ar rent
Cysylltwch â ni
Asesiadau tai (HHSRS)
Gall y Cyngor asesu tai gan ddefnyddio’r System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai. Mae’r HHSRS yn cynnwys peryglon iechyd a diogelwch fel tamprwydd, llwydni, tymheredd, llygredd (plwm, asbestos, ymbelydredd ac ati), prinder lle neu olau, gormod o sŵn, materion diogelwch bwyd a hylendid personol, peryglon syrthio a thrydan a phroblemau strwythur.
Mae peryglon categori 2 yn cael sgôr o 1000 neu lai dan yr HHSRS; caiff peryglon categori 1 dros 1000. Mae gan y Cyngor sawl opsiwn gorfodaeth. Gellir rhoi rhybuddion gwella, gwahardd neu ymwybyddiaeth o berygl i eiddo yn y ddau gategori; gellir rhoi gorchmynion dymchwel, clirio, trwsio ar frys neu wahardd ar fryd i eiddo categori 1.